Skip to main content

Prentisiaethau – Lloegr

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf blaenllaw Cymru, gyda chefndir cryf mewn addysg oedolion ar ôl gweithio gyda miloedd o brentisiaid a chyflogwyr yng Nghymru a Lloegr.

Rydym ar y Gofrestr o Ddarparwyr Hyfforddiant Cymeradwy (RoATP) i ddarparu prentisiaethau i sefydliadau sy’n talu ardoll yn Lloegr. Mae ein cyfraddau cyflawni cymwysterau ar gyfer 18/19 (y data dilys diweddaraf sydd ar gael) yn rhagorol, sef 94.6% gyda 81.4% yn gyflawniad amserol.

Mae’r Coleg yn enwog am ei ddull cadarnhaol a rhagweithiol o weithio gyda chyflogwyr. Yn 2024, dyfarnwyd y wobr Ehangu Cyfranogiad i ni yng ‘Ngwobrau Beacon’ Cymdeithas y Colegau 2023/24, ar ôl i ni ennill teitlau Darparwr y Flwyddyn Prentisiaeth Gwasanaethau Gofal, a Phencampwr Prentisiaeth Anghenion Arbennig ac Anabledd (SEND) yn 2022 yn flaenorol. Rhoddwyd y wobr i ni fel cydnabyddiaeth o’n menter ‘Prentisiaethau i Bawb’, a gynyddodd yn sylweddol niferoedd recriwtio a chyfraddau cyflawniad prentisiaid ag anabledd, anghenion dysgu ychwanegol, neu gyflwr iechyd meddwl neu gorfforol.

Llwybrau prentisiaeth 

Rydym yn arbenigo mewn pedwar maes allweddol yn Lloegr; Rheoli Cyfleusterau, Gwella Parhaus, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ac Electroneg. 

Rheoli Cyfleusterau

Un o’r ychydig iawn o gymwysterau a gydnabyddir yn y DU o fewn y diwydiant hwn, byddwch chi a’ch gweithlu yn ennill sgiliau datrys problemau effeithlon a dealltwriaeth drylwyr o’r sector er mwyn sicrhau arbedion lle bo’n bosibl ym maes cynnal a chadw adeiladau.

Mae’r meysydd yn cynnwys iechyd a diogelwch, argyfyngau, rheoli ynni a gwastraff, gwarchodaeth amgylcheddol a diogelwch eiddo. 

Gwella Parhaus

Nod y llwybr hwn yw gweithredu diwylliant o wella parhaus o fewn sefydliad, lle bydd cynhyrchedd a pherfformiad yn cael eu heffeithio mewn modd cadarnhaol. Byddwch chi a’ch gweithlu yn dysgu i weithredu arferion a all gynyddu elw trwy ddileu gwastraff, gwella llif gwaith yn ogystal â lleihau costau ac amrywiad.

Mae’r meysydd yn cynnwys dileu gwastraff, gweithdrefnau amgylcheddol, rheoli ansawdd, cyfathrebu a datrys problemau.  

 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn canolbwyntio ar uwchsgilio’ch hun a/neu wella sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth eich gweithlu i lenwi swyddi rheoli allweddol o fewn eich sefydliad. Bydd y llwybrau yn helpu i gryfhau a chadw eich gweithlu, wrth gyflawni amcanion gweithredol a strategol.

Mae meysydd y rhaglenni yn cynnwys rheoli prosiect, rhoi cynlluniau ar waith, arweinyddiaeth tîm, rheoli cyllid a thalent.   

 

Electroneg

Prentisiaeth bwrpasol 100% a ddatblygwyd i weddu i safonau a gofynion y diwydiant. Yn wreiddiol, datblygwyd y cymhwyster gan diwtoriaid Coleg Gŵyr Abertawe â phrofiad helaeth o ddiwydiant ynghyd â sefydliadau blaenllaw megis Sony ac Amazon.

Mae’r meysydd yn cynnwys roboteg, mathemateg, egwyddorion trydanol, peirianneg yn ogystal ag iechyd a diogelwch. 

 

Straeon cyflogwyr 

Rydym yn gweithio gydag ystod eang o gyflogwyr mawr a bach mewn amrywiaeth o wahanol ddiwydiannau a sectorau.

Clywch beth sydd gan rai o'n partneriaid cyflogwyr i'w ddweud!

Cliciwch y botwm ar ochr dde uchaf y fideo i weld mwy.

Logo

Becon awards finalist logo

Gwobrau Prentisiaethau

Cynhaliwyd Gwobrau Prentisiaethau eleni ar ddydd Llun 5 Chwefror 2024.

Rhagor o wybodaeth

Manteision prentisiaethau

Bydd darpar brentisiaid yn elwa mewn nifer o ffyrdd gwahanol drwy astudio prentisiaeth gyda’r Coleg, gan gynnwys:

  • Ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn  
  • Ennill cyflog wrth ymgymryd ag astudiaethau a hyfforddiant
  • Cymorth gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant
  • Ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
  • Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â Smart Assessor
  • Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn ogystal ag aelodaeth am bris gostyngol
  • Prisiau gostyngol ar gyfer gwasanaethau a gynigir gan ein Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig (Broadway)
  • Cymhwysedd i wneud cais am gerdyn myfyriwr prentisiaid NUS  
  • Mynediad at adnoddau dysgu Moodle a Canvas  

Buddion i gyflogwyr

Trwy weithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe, bydd cyflogwyr yn elwa o:

  • Well gynhyrchiant gweithwyr
  • Gwell perfformiad ac ysbryd tîm
  • Gwell sgiliau mewnol o fewn y cwmni
  • Mynediad at lwybrau cyllid a grantiau
  • Costau hyfforddi a recriwtio is
  • Y gallu i lenwi bylchau mewn sgiliau trwy recriwtio staff newydd neu uwchsgilio staff presennol

Cwestiynau Cyffredin

Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig.  

Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. 

Dim o gwbl. Gall weithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio prentisiaethau i uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos yng Nghrymu. 

Bydd hyd pob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.

Byddant yn dechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond, efallai bydd rhai cyrsiau yn dechrau ym mis Medi, yn unol â’r flwyddyn academaidd.

 

Ymgeisio am Brentisiaeth