Skip to main content

Dadansoddwr Seiberddiogelwch Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
AGORED
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r prentisiaeth ar gyfer dysgwyr sydd â rhywfaint o wybodaeth, profiad neu gymwysterau TG. Mae'n addas ar gyfer sefydliadau sy’n rheoli eu seiberddiogelwch eu hunain yn hytrach na rhoi’r gwaith ar gontract i adrannau neu gwmnïau eraill.

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys rolau iau ac uwch mewn diogelwch rhwydwaith, sicrhau gwybodaeth, datblygu systemau diogel a phrofion hacio.

Mae prentisiaeth Lefel 4 ar gyfer staff neu ddysgwyr profiadol sydd wedi ennill cymhwyster TG Lefel 3 blaenorol, ac sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth mewn seiberddiogelwch. 

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig mewn rôl addas ac yn gweithio ym maes seiberddiogelwch. 

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddyn nhw gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Iechyd a diogelwch ym maes TG
  • Ymarfer proffesiynol mewn cyd-destun TG
  • Egwyddorion rheoli a sicrhau gwybodaeth
  • Egwyddorion profion diogelwch gwybodaeth

Unedau dewisol

  • Rheoli meddalwedd a’i ddatblygu
  • Dadansoddi bygythiad
  • Rheoli system TG
  • Diogelwch system TG 
  • Modelu data
  • Saernïaeth systemau
  • Creu rhaglen gyfrifiadurol sy’n canolbwyntio ar wrthrych
  • Profi diogelwch systemau gwybodaeth
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch gwybodaeth
  • Cynnal asesiadau risg diogelwch gwybodaeth
  • Egwyddorion datblygu system ddiogel

I gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.