Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Lefel 2 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnydiwr yn brentisiaeth a ariennir yn llawn ar gyfer unigolion yn y gweithle sydd â chyfrifoldeb am ddylunio gwefannau, cymwysiadau a gwybodaeth ryngweithiol arall. Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn golygu dylunio gan ystyried y defnyddiwr, lle mae timau dylunio a datblygu yn defnyddio data ar anghenion, nodau ac adborth defnyddwyr i greu gwefannau a chymwysiadau hynod ddefnyddiol a hygyrch. Mae pwnc mwy adnabyddus sef Profiad Defnyddiwr (UX) yn cael ei astudio o fewn y brentisiaeth hon.
Gellir defnyddio'r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys arbenigwr hygyrchedd, dylunydd cynnwys, strategydd cynnwys, dylunydd graffeg, dylunydd rhyngweithio, dylunydd gwasanaethau, ysgrifennwr technegol ac ymchwilydd defnyddwyr.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd prentisiaethau’n cael eu haddysgu gan ddefnyddio dull cyfunol, gan gynnwys addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.
Bydd dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau o’u dewis, a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Efallai y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r rhaglen a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.
Unedau gorfodol
- Effaith nam gweledol ar hygyrchedd digidol
- Effaith niwroamrywiaeth ar hygyrchedd digidol
- Datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
- Gwella darllenadwyedd adnoddau digidol
- Dylunio moesegol mewn Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
- Adnabod a nodweddu defnyddwyr gwasanaethau digidol
- Dylunio cynnwys digidol
- Dyfeisiau rhyngweithiol a dyluniad rhyngweithio
Unedau dewisol
- Meddalwedd pwrpasol
- Meddalwedd arbenigol
- Deall potensial TG
- Technegau cyhoeddi bwrdd gwaith
- Cefnogi gwelliannau gwasanaeth cwsmeriaid
- Prosesu data
- Coladu ac adrodd ar ddata
- Rheoli prosiectau TG
Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Lefel 3 - Prentisiaeth
Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Lefel 4 - Prentisiaeth