Skip to main content

Rheoli Cyfleusterau (Lloegr) Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
18-24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn cwmpasu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddarparu gwasanaethau cymorth cyfleusterau i gwsmeriaid ac adrannau rheoli cyfleusterau. 

Rydym yn cynnig cwrs Lefel 3 sy’n addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r gweithle a’r sector rheoli cyfleusterau, ynghyd ag unigolion sy’n dymuno newid eu gyrfa.

Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yn Lloegr yn unig.  Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth debyg yng Nghymru, cliciwch yma. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd y brentisiaeth yn cael ei gyflwyno yn fisol ar sail wyneb yn wyneb neu ar-lein ar Teams. Byddwn yn defnyddio cyflwyniadau i wella dealltwriaeth y dysgwr o’r sector rheoli cyfleusterau ac i gynnig cymorth ar gwblhau llyfrau gwaith neu adroddiadau. 

Mae unedau’r brentisiaeth hon yn cynnwys cysylltiadau â chwsmeriaid a rhanddeiliaid ym maes rheoli cyfleusterau, ynghyd â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch mewn rheoli cyfleusterau. 

Rheoli Cyfleusterau (Lloegr) Lefel 4 - Prentisiaeth

Asesir y brentisiaeth drwy asesiad ar ddiwedd y cwrs, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau’r dysgwr yn bodloni’r safon. 

Bydd y cwrs Lefel 3 yn cynnwys prawf ysgrifenedig a chyfweliad i bennu cymhwysedd. 

Dysgu i ffwrdd o’r gwaith

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chwe awr (o leiaf) yr wythnos i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau newydd. Math newydd o ddysgu yw dysgu i ffwrdd o’r gwaith, lle mae prentisiaid yn ymgymryd â gwaith sy’n uniongyrchol berthnasol i’r brentisiaeth y mae’n ei astudio.

Bydd y broses ar gyfer dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cael ei chynllunio yn ystod cyfnod cynllunio’r brentisiaeth, a bydd y broses yn ystyried ymrwymiadau gweithredol. Bydd prentisiaid yn gallu ymgymryd â dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn wythnosol neu ar ffurf sesiynau bloc, pa un bynnag sy’n fwyaf addas i’r dysgwr a’r sefydliad.

Adolygiadau Cynnydd

I sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni cynnydd yn unol â disgwyliadau ac amserlenni’r brentisiaeth, byddwn yn monitro cynnydd ac ansawdd dysgu’r dysgwr trwy adolygiad cynnydd, cyfarfod rhwng y dysgwr, y cyflogwr a’r tiwtor/aseswr. Yn ogystal â'r adolygiad cynnydd, byddwn yn sicrhau bod uwch aelodau penodol o fewn y sefydliad yn cael eu diweddaru'n fisol fel y gallant drafod cynnydd a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu lle bo angen.

Gellir cynnal adolygiadau cynnydd yn bersonol, neu drwy gynhadledd fideo neu dros y ffôn.