Skip to main content

Cyflwyniad i Fethodoleg Ddarbodus - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd Cyflwyniad i Fethodoleg Ddarbodus yn rhoi trosolwg i ddysgwyr o’r gwahanol bynciau mewn Methodoleg Ddarbodus. Mae’r rhaglen yn ategu gwybodaeth sylfaenol o Fethodoleg Ddarbodus, gan sicrhau bod dysgwyr yn deall y cysyniadau amrywiol, ac felly yn rhoi modd iddynt weithredu gwelliannau busnes o fewn eu rôl. Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn yn addas i’r rhai sy’n ystyried datblygu sgiliau a gwybodaeth syniadaeth ddarbodus. 

Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. Gellir ei defnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasg gwella prosiect a ddewiswyd ymlaen llaw. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod y cymhwyster yn addas i’w rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd disgwyl i ddysgwyr fynychu saith gweithdy er mwyn datblygu’r sgiliau angenrheidiol a’r wybodaeth o syniadaeth ddarbodus, yn ogystal â chwblhau portffolio a bennwyd ymlaen llaw. 

Bydd y portffolio yn cynnwys gwaith prosiect wedi’i gwblhau seiliedig ar yr unedau a ddewiswyd er mwyn dangos bod y dysgwyr yn cymhwyso eu sgiliau newydd.

Gellir addysgu’r cymhwyster o bell neu wyneb yn wyneb.

Unedau

  • Gweithio’n ddiogel
  • Trefniadaeth y gweithle (5S)
  • Gweithio’n effeithiol mewn tîm
  • Gwella parhaus (Kaizen)
  • Systemau rheoli gweledol
  • Datrys problemau
  • Dadansoddi proses lif 

Technegau Gwella Busnes (TGB) Lefel 2 - Prentisiaeth