Cefnogi Addysgu a Dysgu Lefel 2 - Tystysgrif 
Trosolwg
Mae'r Dystysgrif Cefnogi Addysgu a Dysgu yn addas ar gyfer unigolion sy'n dechrau gyrfa ym maes cymorth addysgol. Trwy astudio’r cwrs, bydd dysgwyr yn sicrhau’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi athrawon a sut i gyfrannu at ddatblygiad myfyrwyr. Mae pynciau allweddol y cwrs yn cynnwys ymddygiad cadarnhaol, sgiliau cyfathrebu ac arferion diogelu. Bydd dysgwyr yn ennill profiad o ddarparu cymorth mewn amgylchedd dysgu, gweithio gyda myfyrwyr o bob oedran a hyrwyddo addysg gynhwysol. Mae’r cymhwyster yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n dymuno gweithio fel cynorthwywyr addysgu, staff cymorth neu rolau tebyg o fewn y sector addysg.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.
Gwybodaeth allweddol
Bydd gofyn i ddysgwyr gymryd rhan mewn cyfweliad gyda’r Tîm Gofal Plant a bydd cynigion cwrs yn destun prawf sgrinio llythrennedd byr.
Llwybr Prentisiaeth yn unig:
Rhaid i brentisiaid fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos mewn ysgol addas ar gyfer plant oed ysgol gorfodol.
Os nad ydych yn meddu ar gymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg (gradd A-C), bydd angen i chi gwblhau cymwysterau sgiliau hanfodol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth.
Mae’r Dystysgrif Cymorth Arbenigol ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion Lefel 2 yn cynnig profiad dysgu cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i roi sgiliau a gwybodaeth uwch i ddysgwyr mewn perthynas â chymorth addysgol. Mae ein cwrs wedi’i strwythuro’n ofalus i sicrhau taith ddeinamig a chyfoethog sy’n cyfuno mewnwelediadau damcaniaethol â chymhwyso sgiliau ymarferol.
Darperir y cwrs gan ddarlithwyr profiadol trwy sesiynau wyneb yn wyneb a gynhelir unwaith yr wythnos ar gampws Tycoch.
Asesir y cwrs trwy aseiniadau penodol. Mae dysgwyr hefyd yn cael eu hasesu trwy arsylwadau ymarferol a gynhelir gan aseswyr profiadol.
Ar ôl cwblhau’r Dystysgrif Lefel 2, bydd gennych sgiliau a gwybodaeth fydd yn agor amrywiaeth eang o gyfleoedd dilyniant ym maes addysg a thu hwnt.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cynorthwyydd Addysgu: Ar ôl sicrhau sylfaen gadarn mewn cymorth addysgol, byddwch yn fwy na pharod i wneud cais am rôl Cynorthwyydd Addysgu.
- Cydlynydd Cymorth Dysgu: Gan ddefnyddio eich gwybodaeth am hwyluso anghenion myfyrwyr, gallwch anelu at rôl ymarferydd cymorth dysgu.
- Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Wrth i chi ddatblygu eich arbenigedd, gallwch wneud cais am rolau megis Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Addysg Bellach: Defnyddiwch y dystysgrif fel cam tuag at AB. Beth am astudio Diploma mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu?
Ni waeth pa lwybr y byddwch yn ei ddewis, mae’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Arbenigol ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth uwch sydd eu hangen i gael effaith ystyrlon mewn addysg.
Bydd gan bob myfyriwr aseswr a fydd yn ei gefnogi drwy gydol y rhaglen. Hefyd, bydd gan bob myfyriwr fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau cymorth yn y Coleg i hwyluso ei brofiad dysgu.
Llwybr rhan amser:
Bydd angen i chi gwblhau 200 awr o brofiad gwaith gwirfodddol yn ystod y flwyddyn academaidd a bydd gofyn i chi gael gwiriad DBS am gost ychwanegol. Bydd y Coleg yn trefnu hyn.
Llwybr prentisiaeth:
Bydd gofyn i chi gwblhau 6 adolygiad wythnosol gyda'ch aseswr trwy eich e-bortffolio smart assessor. Bydd rhaid i chi sicrhau lleoliad ysgol.