Skip to main content

Gwneud Dilledyn Wedi’i Leinio (Cwrs Gwnïo)

Rhan-amser
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i gynllunio a gwneud dilledyn wedi’i leinio. Gallai hwn fod yn wasgod, yn sgert neu yn ffrog.

Ar y cwrs hwn byddwch chi’n dysgu am wahanol ffyrdd o greu dilledyn wedi’i leinio’n llawn. Yn ogystal â chael y cyfle i ddysgu sut i gynllunio a chynhyrchu yr eitem o’ch dewis, byddwch chi’n dysgu sut i gyfuno rhai technegau addurno newydd, fel appliqué, clytwaith, brodwaith neu sashiko i sicrhau y bydd y prosiect terfynol y byddwch yn ei gynhyrchu yn unigryw i chi.

Gallwch ddewis defnyddio patrwm masnachol, dod â’ch dyluniad patrwm eich hun neu ddefnyddio bloc wedi’i wneud ymlaen llaw fel sail i’ch dyluniad.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd â rhywfaint o brofiad o wnïo a gwneud dillad sydd am ehangu eu sgiliau a dysgu technegau newydd.

Dylech eisoes fod â sgiliau gwnïo peiriant sylfaenol a rhywfaint o brofiad o wneud dillad syml. Mae technegau newydd, fodd bynnag, yn cael eu dangos yn llawn o’r cychwyn cyntaf, felly nid oes angen gwybodaeth flaenorol ohonynt.

Wyneb yn wyneb.

Ar y dechrau, byddwn ni’n darparu’r holl ddeunyddiau ond bydd disgwyl i chi ddarparu eich deunyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu eich prosiect dewisol.

Dysgwch sut i gyfuno’ch sgiliau gwnïo newydd â sgiliau clytwaith, appliqué neu frodwaith a sashiko eraill fel y gallwch ddylunio hanfodion cwpwrdd dillad sy’n unigryw i’ch steil chi.

Gallwch hefyd symud ymlaen i gyrsiau gweithgynhyrchu dillad eraill, gwneud eitem gwiltiog neu bâr o drowsus.

Make a Lined Skirt
Cod y cwrs: ZA204_P02
09/04/2027
Llwyn y Bryn
10 weeks
Friday
1:30 - 4:30pm
£70.00