Skip to main content

Iaith Arwyddion Prydain ac Ymwybyddiaeth o Fyddardod Lefel 1

Rhan-amser
Lefel 1
AGORED
Tycoch
30 weeks
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amgylchedd ymarferol lle byddant yn dysgu iaith arwyddion ragarweiniol. Byddant hefyd yn mynd trwy egwyddorion cyfathrebu sylfaenol er mwyn cynyddu eu hymwybyddiaeth o’r diwylliant byddar.

Mae rhai o’r pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • Cydnabod ac ymateb i lythrennau’r wyddor trwy sillafu bysedd.
  • Cyfnewid manylion personol trwy arwyddo, megis enw, cyfeiriad ac arwyddion ystafell ddosbarth.
  • Yn ogystal, astudir y tywydd, bwyd a diod, hobïau a diddordebau, anifeiliaid a dulliau trafnidiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Gweithgareddau mewn darlithoedd sy’n arwain at dri asesiad ar dâp fideo.
 

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Agored Level 1 Sign Language
Cod y cwrs: VA027_P01
11/01/2027
Tycoch
16 weeks
Monday
5:30 - 7:30pm
£150.00