Lluniadu
Trosolwg
Mae lluniadu yn fan cychwyn sylfaenol i ddatblygu sgiliau creadigol pellach. P'un a ydych chi’n ddechreuwr, neu os oes gennych chi rywfaint o brofiad, mae’r cwrs hwn yn cynnig lle cefnogol ac ysbrydoledig i ddatblygu eich sgiliau lluniadu a magu hyder.
Gan ddefnyddio lluniadu arsylwadol, cewch eich annog i ddatblygu dealltwriaeth o sut i gymhwyso llinell, tôn a ffurf. Byddwch hefyd yn archwilio technegau gwneud marciau mynegiannol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a chyfryngau. Yn dibynnu ar argaeledd, efallai y cewch gyfle i luniadu o fodel bywyd, gan wella ymhellach eich gallu i arsylwi a rendro’r ffurf ddynol.
Tymor un
Anelir tymor un at ddechreuwyr. Dros y 10 wythnos, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd lluniadu gan gynnwys cyfrannedd, llinell, tôn a chysgodi.
Tymor dau
Datblygwch eich sgiliau lluniadu, gan ganolbwyntio ar luniadu arsylwadol gyda mwy o bwyslais ar gyfansoddiad a defnyddio gwahanol gyfryngau i archwilio arddull bersonol. Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a lefel ganolradd.
Tymor tri
Gan adeiladu ar y sgiliau a ddysgwyd yn nhymhorau un a dau, byddwch yn parhau i fireinio’ch sgiliau lluniadu a chewch eich annog i arbrofi â graddfa, deunyddiau a phynciau mwy cymhleth.
Mae pob tymor yn gwrs 10 wythnos annibynnol. Gallwch gofrestru ar gyfer un tymor neu’r tri am brofiad dysgu mwy cyflawn
Amcanion y cwrs:
- Magu hyder wrth luniadu trwy ymarfer dan arweiniad a beirniadaeth
- Deall a chymhwyso cysyniadau lluniadu craidd fel cyfrannedd, cyfansoddiad a gwerth
- Gwella arsylwi gweledol a chydsymud llaw a llygad
- Archwilio gwahanol ddeunyddiau ac arddulliau lluniadu
- Meithrin creadigrwydd unigol a llais artistig personol.
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai dysgwyr yn ei chael yn fuddiol mynychu pob tymor i feithrin sgiliau wrth baratoi ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nad yw hyn yn rhwystr i fynychu pob tymor fel cwrs annibynnol.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn yn Uplands, Abertawe.
I ennill eich cymhwyster, byddwch yn cwblhau llyfryn ymarferol o ganlyniadau drwy gydol y cwrs, a fydd wedyn yn cael eu hasesu.
Mae pob tymor yn para 10 wythnos. Byddwch yn ei chael hi’n fuddiol mynychu tymhorau olynol i ddatblygu eich sgiliau’n raddol, ond mae croeso i chi ymuno unrhyw dymor fel cwrs annibynnol cyflawn.
Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae ffi stiwdio o £10 yn daladwy ar gyfer pob tymor o 10 wythnos.
Gellir casglu’r holl waith ar ôl cwblhau’r llyfryn.