Skip to main content

Mesur Meintiau - Tystysgrif Genedlaethol Uwch

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 4
Tycoch
Dwy flynedd

Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk

Trosolwg

Corff dyfarnu: Pearson

Pearson BTEC Logo

Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.

Ydych chi’n gweithio ym maes adeiladu ac eisiau symud i rôl fasnachol neu reoli costau?

Neu ydych chi’n ystyried newid gyrfa i faes Mesur Meintiau ac mae angen cymhwyster arnoch sy’n cyd-fynd â’ch bywyd a’ch gwaith presennol?

Mae galw mawr am Syrfewyr Meintiau ledled y DU gan eu bod yn ymwneud â’r camau cynharaf i’r camau terfynol mewn prosiectau, o amcangyfrif costau ar y cam cysyniadol i’r gwaith o reoli cyllidebau a thalu anfonebau.

Mae Pearson HNC Mesur Meintiau yn gwrs ymarferol, rhan-amser (un diwrnod yr wythnos) a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn mesur, amcangyfrif, cynllunio costau, gweinyddu contractau, caffael, technoleg adeiladu a rheolaeth fasnachol prosiectau adeiladu.

Mae’r HNC yn gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd BSc Mesur Meintiau. Mae’n rhoi mynediad i chi at amrywiaeth o rolau ar safle neu mewn swyddfa ym meysydd rheoli costau, rheolaeth fasnachol, a syrfëo – gyda chontractwyr, ymgynghoriaethau, datblygwyr tai a chleientiaid y sector cyhoeddus. Yn ogystal, gallwch ddewis ychwanegu at eich cymhwyster i ennill HND neu radd BSc lawn.

Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau rhyngweithiol, bach gan arbenigwyr diwydiant sy’n adeiladu eich dysgu o gwmpas astudiaethau achos go iawn. Byddwn ni’n gweithio gyda chi fel unigolyn i ddarparu’r cymorth sgiliau penodol sydd ei angen arnoch, p’un a yw hynny yn sgiliau cyflwyno, magu hyder mewn mathemateg neu ysgrifennu ffurfiol. Mae cynnwys y rhaglen yn cael ei lywio gan ein Panel Diwydiannol Amgylchedd Adeiledig gyda chynrychiolwyr o Andrew Scott, Tai Tarian a chyflogwyr lleol a chenedlaethol eraill, ac felly rydych yn gwybod eich bod yn dysgu dulliau cyfoes a werthfawrogir gan gyflogwyr.

Pa HNC Amgylchedd Adeiledig sy’n iawn i mi?

Mae tri llwybr ar gyfer ein opsiynau HNC Amgylchedd Adeiledig. Dewiswch yr un sy’n gweithio i chi:

  1. HNC Rheolaeth Adeiladu – Os ydych chi eisiau rhedeg prosiectau, mae’r llwybr hwn yn rhoi sgiliau mewn cynllunio, caffael a sut i ddod â thimau gwahanol at ei gilydd ar brosiectau adeiladu. Byddwch yn gwybod sut i gyflwyno prosiect ar amser, ar gyllideb a sut i reoli risg.
  2. HNC Peirianneg Sifil – Os ydych yn mwynhau cymhwyso mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau go iawn, bydd y llwybr hwn yn adeiladu’r wybodaeth dechnegol i weithio ar ffyrdd, pontydd, draeniau ac adeiladau. Byddwch yn deall sut mae strwythurau yn ymddwyn ac yn gallu cynhwyso egwyddorion dylunio ac offer digidol i greu prosiectau Peirianneg Sifil.
  3. HNC Mesur Meintiau – Os ydych yn cael eich tynnu at ochr fasnachol adeiladu, bydd y llwybr hwn yn rhoi’r sgiliau i reoli ochr fusnes prosiectau adeiladu. Byddwch yn gallu dehongli lluniadau a chynlluniau adeiladu a rhagweld a rheoli gwariant ar brosiectau byw yn gywir.

Gwybodaeth allweddol

Rydym yn cydnabod cymwysterau ffurfiol a/neu brofiad gwaith perthnasol fel llwybrau mynediad at HNC Mesur Meintiau.

Mae gofynion mynediad nodweddiadol yn cynnwys cymhwyster Lefel 3 mewn maes perthnasol megis Adeiladu, Peirianneg, neu Fusnes.

Neu, rydym yn croesawu eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol mewn Diwydiant ac yn gallu dangos tystiolaeth o hyfedredd mewn Saesneg ysgrifenedig a llafar a sgiliau rhifedd da.

Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd a/neu’ch CV a thystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld ymarfer mesur meintiau ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn eich arwain trwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr.

Modiwlau:

  • Prosiect Dylunio Adeiladu 
  • Yr Amgylchedd Adeiladu
  • Cymhwyso Digidol ar gyfer Gwybodaeth Adeiladu
  • Mesur ac Amcangyfrif
  • Egwyddorion Ynni Amgen
  • Goruchwyliaeth a Gweithrediadau ar Safle
  • Ymarfer Mesur Meintiau
  • Y Gyfraith a Fframweithiau Cyfreithiol mewn Mesur Meintiau.

Asesu

Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, a chyflwyniadau. Amlinellir meini prawf graddio yn glir yn y llawlyfr cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.

Maer cwblhau’r cwrs HNC mewn Mesur Meintiau yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa.

Mae’r cymhwyster HNC hwn yn rhoi mynediad at rolau megis:

  • Syrfëwr Meintiau Cynorthwyol (cyflogau £24,000 i £32,000)
  • Amcangyfrifydd Cynorthwyol (cyflogau £24,000 i £32,000)
  • Hyfforddai Rheoli Costau (cyflogau £24,000 i £32,000)

Yn ogystal, gallwch ddewis dilyn cwrs lefel uwch, megis Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), neu radd mewn Mesur Meintiau neu faes cysylltiedig.

Wrth i chi ennill profiad ac arbenigedd, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Syrfëwr Meintiau Prosiect, Rheolwr Contractau, neu Reolwr Masnachol (cyflogau £50,000-£65,000).

Cymerwch y cam cyntaf at yrfa lewyrchus a gwobrwyol mewn Mesur Meintiau ar ein cwrs HNC a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Costau’r cwrs

£2,340* y flwyddyn, ond mae hefyd ar gael trwy lwybr prentisiaeth.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Hyd y cwrs

Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.

Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir dosbarthiadau 9am-5pm bob dydd Mawrth.

Ffioedd ychwanegol

  • Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl 
  • Costau llungopïo, nwyddau swyddfa ac offer (e.e. cofion bach USB)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.