Uwchgylchu hen ddillad
Trosolwg
Dyma gwrs chwe wythnos am ddim a fydd yn eich caniatáu i ddysgu sut i ddefnyddio gwahanol dechnegau tecstilau addurniadol i uwchgylchu eich hen ddillad.

Wythnos un
Technegau clytwaith wedi’u gwneud o bapur
Dysgwch dechnegau gwnïo syml i greu clytiau y gellir eu defnyddio i orchuddio tyllau mewn dillad neu i greu rhywbeth newydd yn gyfan gwbl.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Un dilledyn. Gall fod yn hen ddilledyn neu yn rhywbeth rydych chi wedi ei brynu o siop elusen yr hoffech ei uwchgylchu neu bersonoli.
Gallwch ddod â jîns, sgertiau, crysau chwys, siwmperi, crysau ac ati.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Pennau ffabrig
- Darnau ffabrig
- Templedi clytwaith
- Pensiliau
- Pinnau
- Siswrn
- Cotwm gwnïo
- Nodwyddau gwnïo

Wythnos dau
Pwythau brodwaith
Dysgwch sut i greu pwythau brodwaith syml i orchuddio twll mewn hen bâr o jîns neu i roi gwedd newydd i hen grys neu ffrog.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Un dilledyn. Gall fod yn hen ddilledyn neu yn rhywbeth rydych chi wedi ei brynu o siop elusen yr hoffech ei uwchgylchu neu bersonoli.
Gallwch ddod â jîns, sgertiau, crysau chwys, siwmperi, crysau ac ati.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Templedi acrylig
- Calico i ymarfer pwythau
- Edau brodwaith
- Pennau ffabrig
- Siswrn

Wythnos tri
Gwnïo Sashiko
Dysgwch sut i uwchgylchu hen ddillad neu ddillad ail-law gan ddefnyddio dull gwnïo sashiko syml i roi golwg newydd sbon i’ch dillad.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Un dilledyn. Gall fod yn hen ddilledyn neu yn rhywbeth rydych chi wedi ei brynu o siop elusen yr hoffech ei uwchgylchu neu bersonoli.
Gallwch ddod â jîns, sgertiau, crysau chwys, siwmperi, crysau ac ati.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Templedi acrylig
- Calico i ymarfer
- Pennau ffabrig
- Papur ar gyfer dylunio
- Pensiliau ar gyfer dylunio

Wythnos pedwar
Technegau appliqué
Uwchgylchwch eich dillad trwy gyfuno hen ddarnau o ffabrig a thechnegau gwnïo â llaw syml.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Un dilledyn. Gall fod yn hen ddilledyn neu yn rhywbeth rydych chi wedi ei brynu o siop elusen yr hoffech ei uwchgylchu neu bersonoli.
Gallwch ddod â jîns, sgertiau, crysau chwys, siwmperi, crysau ac ati.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Bondaweb
- Pennau ffabrig
- Darnau ffabrig
- Pensiliau
- Pinnau
- Siswrn
- Cotwm gwnïo
- Nodwyddau gwnïo

Wythnos pump
Gwehyddu gwyddiau peg
Trawsnewidiwch eich hen grysau-t yn ryg neu'n fat bach gan ddefnyddio dulliau gwehyddu pegiau.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Dau neu dri chrys-t. Byddant yn cael eu defnyddio i greu stribedi ffabrig 3cm.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Cord i greu gwehyddu
- Gwau gwehyddu peg
- Prenau mesur
- Siswrn

Wythnos chwech
Creu clustog cofio
Defnyddiwch ddulliau gwnïo â llaw syml i uwchgylchu hen grys chwys neu siwmper i greu clustog cofio er mwyn talu teyrnged i anwylyd.
Beth sydd angen i chi ddod i’r sesiynau?
Gallwch ddod â jîns, sgertiau, crysau chwys, siwmperi, crysau ac ati.
Croeso i chi ddod â ffabrigau ychwanegol i addurno eich clustog.
Byddwn ni’n darparu’r canlynol:
- Patrwm clustog
- Darnau ffabrig
- Papur patrwm
- Pinnau
- Siswrn
- Cotwm gwnïo
- Nodwyddau gwnïo
Byddwch yn cael cyfle i gofrestru ar y cwrs yn ystod y sesiwn gyntaf:
- Llyfrgell Treforys, dydd Mawrth 6 Mai, 1-4pm
- Llyfrgell Cilâ, dydd Mercher 7 Mai, 1.30-4.30pm
- Llyfrgell Gorseinon, dydd Gwener 9 Mai, 1-4pm
- Llyfrgell Townhill, dydd Llun 12 Mai, 9.15-12.15pm
- Llyfrgell Tregŵyr, dydd Llun 12 Mai, 1.30-4.30pm
Gwybodaeth allweddol
Bydd pob sesiwn yn para tair awr. Mae’r cwrs wedi’i strwythuro dros gyfnod o chwe wythnos ac mi fydd yn adeiladu ar bob sesiwn. Ni fyddwch yn cael dewis a dethol eich sesiynau, bydd angen i chi fynychu pob un.