Skip to main content

Mynediad i Nyrsio a’r Proffesiynau Iechyd

Amser-llawn
Lefel 3
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r Coleg yn ystyried y cwrs hwn yn un amser llawn ac felly does dim ffioedd heblaw am y ffi weinyddol safonol o £40.

Mae’r cwrs Mynediad i Nyrsio a’r Proffesiynau Iechyd yn rhaglen lwyddiannus sy’n paratoi myfyrwyr hŷn neu bobl sy’n newid gyrfa ar gyfer byd gwaith neu addysg uwch (galwedigaethol neu academaidd).

Mae’r cwrs yn cynnwys unedau sgiliau astudio i ddatblygu sgiliau yn ogystal ag astudiaethau academaidd i baratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch. Mae’r cwrs yn cefnogi myfyrwyr trwy system geisiadau UCAS ar gyfer mynediad i sefydliadau addysg uwch ledled y DU a Gogledd Iwerddon.

Mae’r unedau hyn yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer addysg uwch:

  • Sgiliau astudio mynediad hanfodol
  • Cyfathrebu
  • Rhifedd ar gyfer iechyd 1 a 2
  • Anatomeg a ffisioleg
  • Cymdeithaseg a seicoleg
  • Y gyfraith a deddfwriaeth / gofal iechyd
  • Prosiect ymchwil
  • Cyflwyniad llafar
  • Myfyrio

Gwybodaeth allweddol

Gyda gofynion y rhaglen Lefel 3 a’r angen i gyflawni, mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau’r rhaglen Gyn-fynediad yn llwyddiannus. Mae’r rhaglen ar gael o fis Ionawr tan fis Mai o’r flwyddyn academaidd, ond os nad yw hyn yn bosibl mae modd gwneud trefniadau ar gyfer asesiad yn y dosbarth er mwyn i’r myfyriwr gael lle.

Bydd angen i fyfyrwyr ddangos yn y cyfweliad bod ganddynt ddiddordeb go iawn mewn pobl, agwedd gadarnhaol, yr angen i wneud yn dda ac ymrwymiad a brwdfrydedd dros astudio. Mae angen i fyfyrwyr fod yn ddibynadwy, yn onest, yn deilwng o ymddiriedaeth, a llawn brwdfrydedd.

Dylai myfyrwyr fod yn ymgeiswyr hŷn gyda thystiolaeth o brofiad bywyd.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio arholiadau, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, adroddiadau ac asesiadau wedi’u hamseru yn y dosbarth.

Disgwylir i’r myfyrwyr gael lleoliad gwaith (tua 450 awr)

Addysgir y cwrs gan ddefnyddio darlithoedd, siaradwyr gwadd, arddangosiadau/arsylwadau clinigol yn ogystal â sesiynau holi ac ateb anffurfiol i helpu’r myfyrwyr i wneud cynnydd.

Mae’r cwrs amser llawn yn cynnwys 12.5 awr o astudio yr wythnos dros dri diwrnod neu ddau ddosbarth nos rhwng 1pm a 9pm.

Bydd myfyrwyr sydd â diddordeb mewn iechyd yn gallu symud ymlaen i’r brifysgol o’r cwrs hwn i astudio: nyrsio oedolion, nyrsio pediatrig, nyrsio iechyd meddwl, nyrsio anableddau dysgu, bydwreigiaeth, parafeddygaeth, therapi lleferydd, podiatreg ac ati.

Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol/gofal cymdeithasol yn gallu symud ymlaen i: waith cymdeithasol, gwaith ieuenctid, troseddeg, polisi cymdeithasol, astudiaethau cymunedol, seicoleg, gwyddorau cymdeithasol ac ati.

Ond mae nifer o fyfyrwyr yn cael cyflogaeth o’r rhaglen hon er enghraifft cynorthwyydd gwaith cymdeithasol, gweithiwr cymorth gofal iechyd, gweithiwr ieuenctid ac ati.

Os nad yw’r myfyrwyr yn gweithio ym maes iechyd ar hyn o bryd, cânt eu hannog i gael profiad gwaith sy’n addas i’r llwybr dilyniant a ddewiswyd ganddynt. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ymweld â sefydliadau AU lleol ledled gorllewin Cymru i gwrdd â’r timau derbyn a bydd cost fach i dalu am deithio.