Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach Lefel 2

Amser-llawn
Lefel 2
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn addas i unrhyw un rhwng 16 ac 19 oed sy’n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i flasu amrywiaeth o bynciau gwahanol. Gallai’r rhain gynnwys:*

  • Materion iechyd
  • Astudiaeth wyddonol
  • Systemau’r corff dynol
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i sicrhau newid
  • Gwydnwch
  • Ffotograffiaeth
  • Traddodiadau a defodau Cymru
  • Astudiaethau amgylcheddol.

*gallai hyn newid. 

24/6/22

Gwybodaeth allweddol

Pedair gradd D ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg, neu radd Teilyngdod o gwrs Diploma Lefel 1.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac fe’i hasesir yn barhaus drwy aseiniadau. Does dim arholiadau. Bydd methu â dod i’r darlithoedd yn rheolaidd yn peryglu gallu’r myfyriwr i gwblhau’r cymhwyster llawn.

Cyrsiau Lefel 3 / cyrsiau Mynediad / prentisiaethau neu gyflogaeth