Skip to main content

Cyflwyniad i Deithio a Thwristiaeth Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Drwy gydol y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau, lle byddwch yn sylweddoli sut mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn cysylltu â chynifer o sectorau gwaith.  

Mae pynciau’n cynnwys:  

  • Gwasanaeth cwsmeriaid 
  • Trwristiaeth arfordirol 
  • Atyniadau ymwelwyr yn y DU 
  • Meysydd awyr a chwmnïau hedfan 
  • Lletygarwch mewn teithio a thwristiaeth 
  • Cyrchfannau teithio a thwristiaeth. 

Gwybodaeth allweddol

Dwy radd D ar lefel TGAU neu’r cyfwerth. 

Asesiadau parhaus trwy lyfrynnau, chwarae rôl a chyflwyniadau. Graddau Pasio, Teilyngdod a Rhagoriaeth. 

100% gwaith cwrs, lle byddwch yn casglu portffolio o dystiolaeth. 

Gall llwyddiant ar y cwrs arwain at ddilyniant i’r cwrs Diploma Lefel 3 mewn Twristiaeth Uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant teithio a thwristiaeth. 

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys teithiau cyffrous i atyniadau lleol a chenedlaethol, gan roi profiadau uniongyrchol i chi gasglu tystiolaeth ar gyfer eich aseiniadau. Mae’r ymweliadau hyn yn rhoi ystyr i’r gwaith cwrs, gan wella a chyfoethogi eich dysgu a gwneud eich aseiniadau yn hwyl. Costau’r cwrs yw tua £50-£100 Mae cymorth ariannol ar gael (os yw’n briodol).

Explore in VR