Trosolwg o’r Cwrs
Mae tirlunio yn sector sy’n tyfu’n gyflym yn y DU. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd mawr mewn ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o blanhigion, garddio, tirlunio a’r amgylchedd. Mae hyn yn helpu i wneud garddwriaeth a thirlunio yn un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf yn y DU.
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o unedau dewisol fel:
- Adeiladu lle palmantog mewn gardd
- Adeiladu waliau a phileri mewn gardd
- Cynnal pwll gardd
- Plannu cynhwysydd ar gyfer arddangosfa dymhorol
- Tocio llwyni colldail sy’n blodeuo yn y gwanwyn
- Torri perthi gan ddefnyddio torrwr perth petrol
- Lluosogi planhigion drwy doriadau coesyn
- Torri glaswellt gan ddefnyddio peiriant torri glaswellt cylchdro
- Adeiladu ffensys gardd
- Hau hadau y tu allan â llaw
- Adeiladu meinciau a phergolâu gardd
- Tyfu planhigion y tu mewn o hadau
Diweddarwyd Gorffennaf 2021
Gofynion Mynediad
Bydd rhaid i fyfyrwyr ddangos diddordeb mewn tirlunio caled a meddal ac, yn ddelfrydol, bydd ganddynt gymhwyster Lefel 1 mewn garddwriaeth neu adeiladu, neu un Radd C ar lefel TGAU.
Dull Addysgu’r Cwrs
Asesir y cymhwyster trwy arsylwi ar berfformiad ymarferol a holi. Yn ogystal, rhaid i fyfyrwyr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth i ategu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ffi £60 am ddillad diogelwch y mae’n rhaid i fyfyrwyr eu gwisgo wrth wneud tasgau ymarferol.