Coleg yn ennill Gwobr CyberFirst


Diweddarwyd 08/03/2022

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Colegau CyberFirst Arian gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC).

Rhoddir y wobr i gydnabod ymrwymiad y Coleg i addysg seiberddiogelwch.

Nod NCSC, sydd yn rhan o GCHQ, yw cydnabod ysgolion a cholegau y barnir bod eu hymagwedd at addysg seiberddiogelwch yn ardderchog.

O ganlyniad i’r achrediad hwn, bydd NCSC yn cydnabod Coleg Gŵyr Abertawe yn ffurfiol ac yn ei hyrwyddo. Yn ogystal bydd yn rhan o rwydwaith cenedlaethol sy’n rhoi cyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion lleol, prifysgolion a chyflogwyr ynghylch materion seiber.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill yr achrediad Arian hwn gan NCSC a gobeithio y bydd yn paratoi’r ffordd i ni gael mwy o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â diwydiant lleol a datblygu llwybr sgiliau digidol ar gyfer pobl ifanc,” dywedodd Leanne Davies, Arweinydd Sgiliau Digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Mae ein dysgwyr yn gallu ymgysylltu â’r fenter hon mewn sawl ffordd, sy’n cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau a chystadlaethau a gwneud cais am fwrsarïau prifysgol.

“Rydyn ni wir yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r gymuned CyberFirst.”