Skip to main content
Cynllun prentisiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw’r gorau yn y DU

Cynllun prentisiaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw’r gorau yn y DU

Enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Raglen Brentisiaeth y Flwyddyn yn nigwyddiad blynyddol Gwobrau Tes FE, sy’n cydnabod y sefydliadau addysg bellach gorau sy’n cefnogi dysgwyr ledled y DU. Mae Tes, a elwid gynt yn Times Educational Supplement, yn un o’r cyfryngau blaenllaw ar gyfer y sector addysg.

Cafodd y Coleg ei ganmol am ddatblygu cynlluniau prentisiaeth o safon uchel ar gyfer diwydiannau lleol, ac yn benodol am ei waith gydag un o’r cynhyrchwyr dur mwyaf adnabyddus yn y byd, Tata. Yna roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi meithrin cysylltiadau cryf â busnesau eraill, gan gynnwys Huntsman Corporation a Vale Europe, i ddarparu prentisiaid o safon uchel i bob un - er budd cyflogwyr a dysgwyr.

Roedd y beirniaid yn cydnabod yn benodol ymateb Coleg Gŵyr Abertawe i ddatrys prinder sgiliau gwyddoniaeth Tata. Datblygodd y Coleg nid yn unig brentisiaeth Lefel 3 mewn gwyddoniaeth labordy a diwydiannol ond aeth un cam ymhellach, gan ddatblygu prentisiaeth uwch Lefel 4 yn y diwydiannau gwyddor bywyd.

Yn dilyn hynny, gweithiodd y Coleg yn arloesol i sicrhau dilyniant pellach ar gyfer y llwybr a daeth i gytundeb â Phrifysgol Abertawe i roi modd i fyfyrwyr fynd ymlaen i ail flwyddyn eu rhaglen gradd cemeg - y llwybr cemeg cyntaf o’i fath yn y DU.

Mae’r Coleg hefyd wedi cael llwyddiant ysgubol wrth hyrwyddo merched a menywod mewn prentisiaethau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg). Wrth wneud hynny, mae’r Coleg wedi cefnogi prentisiaid benywaidd difreintiedig ac wedi ymweld ag ysgolion lleol i annog mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd mewn STEM.

Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae cael ein dyfarnu fel y Rhaglen Brentisiaeth orau yn y DU yn deyrnged i ymdrechion ein dysgwyr, fy nghydweithwyr, a phartneriaid cyflogwyr y Coleg. Rydyn ni’n ceisio darparu cyfleoedd gwych i’n myfyrwyr ac wedi gweithio’n hynod galed i feithrin cysylltiadau cryf â busnesau sy’n rhannu ein hawydd i ddatblygu’r talentau gorau. Ein gweledigaeth yw arwain y ffordd ym maes addysg a hyfforddiant ar gyfer y dysgwyr, y cyflogwyr a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu – mae’r wobr hon yn dangos bod pobl eraill yn teimlo ein bod ni’n gwneud cynnydd cryf tuag at hynny.”

Mae disgwyl i Goleg Gŵyr Abertawe gael ei gydnabod ymhellach am ei ymdrechion prentisiaeth ar ôl cyrraedd y rhestr fer am ddim llai na thair gwobr yn y DU (y nifer fwyaf o enwebiadau ar y cyd o unrhyw sefydliad yn y DU) yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC FE Week ac AELP. Mae’r Coleg wedi cael ei enwebu ar gyfer darparwr y flwyddyn prentisiaethau digidol, darparwr y flwyddyn prentisiaethau peirianneg a gweithgynhyrchu, a darparwr y flwyddyn prentisiaethau cyfreithiol, cyllid a chyfrifyddu. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth, 8 Gorffennaf, 2021.