Skip to main content

Digwyddiad yn ardal Gorseinon (10 Chwefror)

Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad treisgar yng Ngorsaf Fysiau Gorseinon neithiwr (nos Iau 10 Chwefror).

Ers hynny mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi hysbysiad Adran 60, sy’n rhoi awdurdod i swyddogion stopio a chwilio unrhyw un yn yr ardal, gan gynnwys Campws Gorseinon.

Mae’n ymddangos nad yw’r digwyddiad hwn yn gysylltiedig â'r Coleg, ond rydym yn annog pob myfyriwr i aros ar y campws heddiw.

Mae gennym swyddogion cymorth ar gael hefyd i unrhyw un sy’n teimlo eu bod wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.