Skip to main content
Marley Blakemore a Rhys Watts

Dwy Fedal Aur i Goleg Gŵyr Abertawe – Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2026

Llongyfarchiadau mawr i fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe a enillodd fedalau Aur yn y digwyddiad diweddar, a gynhaliwyd yn ICC Cymru, Casnewydd.

Steve Joseph-Sebastian (Dylunio Graffig)
Marley Blakemore (Electroneg Ddiwydiannol)

“Roedden ni wrth ein bodd o weld Steve a Marley yn cipio medalau Aur yn y seremoni wobrwyo. Mae hyn yn adlewyrchu eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn ystod y broses gystadlaethau,” meddai Rheolwr Sgiliau’r Coleg, Louisa Walters. “Mae cyfle gan y ddau nawr i ennill lle yn y Garfan a chymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills yn Japan yn 2028.  

“Daeth Coleg Gŵyr Abertawe yn chweched yn y DU o ran pwyntiau medalau, felly llongyfarchiadau mawr i’r myfyrwyr a’r staff anhygoel a’u cefnogodd ar y daith gyffrous hon sydd wedi newid eu bywydau!

“Da iawn i Kaya-Louise Quinn - a gludodd y Fflam yn Ras Gyfnewid Fflam Worldskills ar Gampws Tycoch - ar ennill Cymeradwyaeth Uchel yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol.”

Mae cofrestru bellach ar agor ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2027, ac mae portffolio o 65 cystadleuaeth sgiliau gwahanol ar gael.