Skip to main content

Diwrnod canlyniadau 2021 – gwybodaeth bwysig am apelio

Os oes unrhyw ddysgwr yn dymuno i’w ganlyniadau gael eu hadolygu, rhaid gwneud hyn ar-lein.

Gallwch wneud cais am adolygiad canolfan ac wedyn apelio i’r corff dyfarnu lle rydych yn credu bod camgymeriad wedi cael ei wneud wrth bennu eich gradd.

Rhaid i chi nodi’n glir lle rydych chi’n credu bod gwall wedi’i wneud. Gan fod graddau wedi cael eu penderfynu ar sail dyfarnu gyfannol a thystiolaethol, nid oes gan gyrff dyfarnu unrhyw wasanaethau adolygu marciau na chymedroli ar gyfer Haf 2021. Mae’r ffocws ar ddyfarnu graddau yn gyfannol, yn hytrach na marcio asesiadau unigol.

Gellir gwneud cais i adolygu marciau ar y seiliau canlynol:

  • Gwall gweinyddol - lle rydych yn credu eich bod wedi derbyn gradd/marc anghywir
  • Gwall gweithdrefnol - lle rydych yn credu na ddarparwyd trefniant addasu/mynediad rhesymol.

Mae tri cham i’r broses:

  • Cam 1 – Adolygiad canolfan
  • Cam 2 – Apelio i’r corff dyfarnu, ar ôl adolygiad canolfan
  • Cam 3 – Apelio i’r EPRS, lle bo’n berthnasol, yn dilyn cam 2.

Ar gyfer graddau CBAC a chyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin, nid oes modd gweithredu Cam 1 ar hyn o bryd. Gall y rhai wnaethpwyd cais am gam 1, neu’r rhai a dderbyniwyd marciau newydd (gan CBAC), weithredu cam 2.

Mae Cam 1 yn berthnasol i’r rhai ohonoch sydd wedi derbyn eich graddau am y tro cyntaf.

Dyddiadau cau

Adolygiad blaenoriaeth
Os ydych chi wedi derbyn lle i astudio cwrs Prifysgol neu brentisiaeth gradd, rhaid i chi gyflwyno cais i adolygu eich marciau erbyn 4pm, 15 Awst. Bydd angen i chi ddarparu eich rhif adnabod UCAS a rhoi gwybod i ni pa brifysgol rydych chi’n bwriadu adolygu.

Dylid cyflwyno adolygiadau nad ydynt yn flaenoriaeth erbyn 4pm, 19 Awst 2021.

Mae’r dyddiadau hyn yn adlewyrchu’r amser a gymerir i’r Coleg adolygu’r dystiolaeth a dod i benderfyniad.

Cyn cyflwyno adolygiad, darllenwch ganllawiau’r Bwrdd yn ofalus (dolenni isod). Ystyriwch eich penderfyniad yn fanwl. Gall eich graddau godi, aros yr un peth neu fynd i lawr.

Corff Dyfarnu Canllawiau Apelio
WJEC A/AS / Lefel 3 https://www.wjec.co.uk
CBAC TGAU / Lefel 2 https://www.wjec.co.uk
AQA, OCR, Pearson Safon Uwch   https://www.jcq.org.uk
Pearson BTEC https://qualifications.pearson.com
OCR Technegol https://support.ocr.org.uk
UAL https://www.arts.ac.uk