Skip to main content

CGA a Chi - ein strategaeth iechyd a lles newydd

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd gweithio a dysgu iach i wella bywydau a dyfodol ei gymuned. Am y rheswm yma, rydym yn falch iawn i lansio strategaeth iechyd a lles, CGA a Chi, sy'n darparu fframwaith eang i wella iechyd a lles ein cyflogeion a’n dysgwyr.

Mae gennym eisoes nifer o bolisïau, gwasanaethau a mentrau ar waith i helpu i ddatblygu gweithlu a myfyrwyr cadarnhaol, iach a brwdfrydig. Mae CGA a Chi yn darparu dull ar y cyd o sicrhau lles cyflogeion a dysgwyr gan:

  1. Datblygu amgylchedd cadarnhaol ac ymgorffi diwylliant o les
  2. Darparu dewisiadau ffordd o fyw iach sy’n ateb anghenion ein cymuned amrywiol
  3. Darparu amrywiaeth o wasanaethau hyblyg i gefnogi iechyd a lles cadarnhaol
  4. Darparu cyfleoedd cwricwlwm a datblygiad proffesiynol ar gyfer twf a datblygiad personol

I osod y strategaeth hon ar waith, yn ychwanegol i'n gweithgareddau lles wythnosol, rydym wedi trefnu Wythnosau Ffocws ar gyfer ein myfyrwyr, i ganolbwyntio ar bynciau fel hylendid cysgu, perthnasoedd ac iechyd rhywiol, cyffuriau ac alcohol, bwyta'n iach a chadw’n actif, dyfodol ac iechyd digidol.

Dysgwch fwy am ein hopsiynau cymorth a gweithgareddau cyfoethogi ar gyfer dysgwyr amser llawn, edrychwch ar gyrsiau neu gwnewch gais nawr.