Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe i gael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf ar ôl cael ei ddewis i ymuno â rhaglen hyfforddiant elit.

Nod y Coleg yw sbarduno ansawdd a darpariaeth hyfforddiant technegol a galwedigaethol trwy drosglwyddo arbenigedd a gwybodaeth o’r radd flaenaf i helpu i ddatblygu addysgwyr a dysgwyr.

Mae’r Coleg yn un o 12 sefydliad blaenllaw (colegau a Darparwyr Hyfforddiant Annibynnol) sydd wedi cael eu dewis i ymuno â’r chwyldro sgiliau trwy ddod yn rhan o Ganolfan Ragoriaeth WorldSkills UK.

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth - mewn partneriaeth â ac wedi’i hariannu gan elusen addysgol a chorff dyfarnu NCFE - yn gweld mwy na 40,000 o fyfyrwyr a phrentisiaid ifanc, o bob grŵp economaidd-gymdeithasol ledled y DU, yn ennill sgiliau o’r radd flaenaf.

Yn adeiladu ar y llwyddiant diweddar yng nghystadlaethau sgiliau Cymru a’r DU, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe gais i fod yn rhan o’r Ganolfan Ragoriaeth i wella ymhellach eu darpariaeth hyfforddiant ac addysg alwedigaethol ardderchog ar draws pob pwnc, ond gyda ffocws penodol ar feysydd STEM.

Bydd y rhaglen nodedig hon yn creu cyfleoedd i bum aelod o staff gymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol helaeth o dan arweiniad rheolwr hyfforddi WorldSkills UK a rhannu’r hyfforddiant â chydweithwyr ar draws y Coleg.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r 12 sefydliad sy’n ymaelodi â’r Ganolfan eleni i ymuno â’r don gyntaf o 20 coleg a ddewiswyd mis Medi diwethaf, pan lansiwyd y prosiect peilot tair-blynedd.

Bydd addysgwyr yn y colegau a darparwyr hyfforddiant yn cael sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr unigryw a 60 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus dwys.

Y rhai sy’n ymuno eleni yw: 

  • Coleg a Chanolfan Brifysgol Solihull 
  • Coleg Blackpool and the Fylde
  • Coleg Cambria 
  • Coleg Dinas Glasgow
  • Coleg Fforest Waltham
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Newydd Durham
  • Coleg Oldham
  • Coleg Weston
  • Consortiwm Gogledd Iwerddon (chwe choleg)*
  • Firebrand Training (Llundain)
  • JTL

Yn ei Phapur Gwyn Sgiliau Swyddi ar gyfer Lloegr**, mae’r Llywodraeth yn nodi Canolfan Ragoriaeth WorldSkills UK, mewn partneriaeth â NCFE, fel enghraifft wych o sut roedd hi am i sefydliadau â’r arbenigedd perthnasol ddarparu hyfforddiant a datblygiad o safon uchel ar gyfer staff addysgu.

“Rydyn ni mor falch i fod yn rhan o’r Ganolfan Ragoriaeth,” dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, “Mae datblygu sgiliau wedi bod yn ffocws cryf yn y Coleg. Mae ein dysgwyr wedi elwa’n fawr ar gystadlaethau WorldSkills ac maen nhw wedi cael llwyddiant ysgubol ynddyn nhw. Rydyn ni’n edrych ymlaen i allu defnyddio’r wybodaeth o WorldSkills UK ac NCFE i wella ein harbenigedd ymhellach a darparu hyfforddiant o’r radd flaenaf.”

Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK: “Er mwyn darparu’r sgiliau o’r radd flaenaf y mae cyflogwyr yn mynnu eu bod nhw’n rhyngwladol gystadleuol, rhaid i ni fuddsoddi yn yr addysgwyr sy’n hyfforddi pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

“Mae’r Ganolfan Ragoriaeth yn ffordd newydd radical o ddod ag arferion gorau byd-eang i economïau lleol. Mae prif-ffrydio rhagoriaeth mewn safonau hyfforddi a’i darparu’n uniongyrchol i ddegau o filoedd o fyfyrwyr a phrentisiaid ifanc yn eu lleoedd dysgu yn allweddol i godi gwastad yr economi a denu buddsoddiad mewnol.

“Mae’r cam newydd hwn o’r prosiect yn golygu ein bod ni bellach yn cynorthwyo pobl ifanc ledled y DU.”

Mae’r rhaglen yn cwmpasu tri llinyn:

  • Modiwlau hyfforddi’r hyfforddwr
  • Harneisio arferion gorau diwydiant rhyngwladol trwy baratoadau presennol WorldSkills Shanghai 2022
  • Dylanwadu ar osodwyr safonau hyfforddiant.

Bydd effeithiolrwydd y rhaglen yn cael ei brofi trwy fesur yr effaith ar ddysgwyr, addysgwyr a sefydliadau er mwyn datblygu ac arloesi’n barhaus. Bydd y lefel hon o fewnwelediad yn helpu’r sefydliadau dan sylw i ddatblygu rhaglen a fydd yn rhoi gwaith a chyfloedd bywyd gwell i fwy o bobl ifanc, ni waeth beth yw eu cefndir, ac yn helpu i hybu cynhyrchiant economaidd.

Y cytundeb partneriaeth tair-blynedd yw’r buddsoddiad unigol mwyaf a wnaed erioed gan Grŵp NCFE. 
 
*
Coleg Metropolitan Belffast
Coleg Rhanbarthol y Gogledd
Coleg Rhanbarthol y De
Coleg Rhanbarthol y De Ddwyrain
Coleg Rhanbarthol y Gogledd Orllewin
Coleg y De Orllewin

** Tudalen 67