Skip to main content
Generation O yn barod i gamu i’r llwyfan

Generation O yn barod i gamu i’r llwyfan

Mae myfyrwyr ar gwrs actio Coleg Gŵyr Abertawe, sy'n gwrs blwyddyn arbenigol, yn barod i gamu i'r llwyfan yr wythnos hon o dan gyfarwyddyd yr actor Richard Mylan.

Yn wyneb cyfarwydd ar deledu cenedlaethol, mae'r cynyrchiadau y bu Richard yn rhan ohonynt yn cynnwys Waterloo Road, Casualty, Doctors, My Family, Bad Girls a Silent Witness. Mae wedi gweithio ar sawl perfformiad yn y theatr hefyd, gan gynnwys Starlight Express yn West End Llundain.

Mae Richard wedi gweithio gyda'r myfyrwyr ar ddarn sy'n cynnwys gwaith y dramodydd Cymraeg cyfoes Gary Owen, gyda pherfformiadau'n cael eu cynnal yn Adain y Celfyddydau yn Theatr y Grand ar 15 a 16 Chwefror.

“Dwi wedi mwynhau gweithio gyda myfyrwyr a staff Coleg Gŵyr Abertawe yn fawr iawn,” dywedodd Richard. “Dwi wedi dysgu llawer! Mae ein holl waith caled yn talu ar ei ganfed a dwi’n falch o lwyfannu Generation 0 yn Theatr y Grand, lle y dechreuodd fy ngyrfa pan oeddwn i’n saith oed – ces i’m siec cyflog cyntaf ar gyfer A Midsummer Night’s Dream gyda’r Northern Ballet Company. Mae’n bleser gennym anrhydeddu’r lle arbennig hwn gyda darn theatrig arbennig.”  

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn falch o gyhoeddi bod y cyfansoddwr/actor arobryn Simon Slater hefyd wedi ymuno â chriw Generation O a bydd yn ysgrifennu rhywfaint o’r gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer y cynhyrchiad. Mae CV Simon yn cynnwys dros 300 o sgorau gwreiddiol ar gyfer y theatr, ffilm, radio a theledu. Yn y West End, cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Olivier am ei waith ar Constellations.

“Mae cael Richard a Simon yn gweithio gyda ni yn brofiad anhygoel unwaith mewn oes i’n myfyrwyr,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Lucy Hartnoll. “Bydd Simon yn cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer Generation O ond yn garedig iawn mae hefyd wedi cynnig bod yn dechnegyddd sain ar y sioe a bydd hyn yn rhoi cyfle anhygoel i’n myfyrwyr Cynhyrchu yn y Theatr gwrdd ag ef a’i wylio wrth ei waith.”

“Mae Richard wedi bod yn gweithio’r myfyrwyr yn hynod galed ac maen nhw wedi elwa’n fawr ar ymarfer yn amgylchedd proffesiynol Theatr y Grand. Mae gweithio gyda Richard wedi cael effaith gadarnhaol ar eu holl brofiad o’r cwrs hwn ac mae nifer eisoes wedi cael cynigion neu alwadau yn ôl gan golegau drama blaenllaw fel Arts Ed. Llundain, LAMDA a’r Bristol Old Vic.”

Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i gynnig cwrs blwyddyn arbenigol mewn Actio o fis Medi 2018 yn ogystal â chwrs Tyst. AU mewn Theatr Gerdd. Bydd y ddau gwrs yn cael eu haddysgu’n rhannol yn Theatr y Grand Abertawe. Ffoniwch 01792 890700 i gael rhagor o wybodaeth.