Skip to main content

Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr pêl-rwyd

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae tîm pêl-rwyd sy’n cynnwys myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu llwyddiant cenedlaethol ar ôl cymryd rhan yng nghystadlaethau Pêl-rwyd yr Urdd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Yn y gemau gogynderfynol enillodd y tîm 19-10 yn erbyn Ysgol Uwchradd Caerdydd cyn curo Coleg Castell-nedd Port Talbot 4-8 yn y rownd gynderfynol. Yn y rownd derfynol, y sgôr oedd 14-8 yn erbyn yr Haberdashers.

"Rydyn ni’n falch iawn o lwyddiant y tîm," dywedodd y Swyddog Dwyieithrwydd Anna Davies. "Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled ein staff a’n myfyrwyr wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth sy’n cryfhau’r iaith Gymraeg ym myd chwaraeon. Llongyfarchiadau i’r merched!"