Myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch yn llwyddo mewn cystadleuaeth


Diweddarwyd 05/12/2017

Mae dau fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi sicrhau lle yn nhîm Carfan y DU WorldSkills, a allai olygu y byddan nhw’n cynrychioli eu gwlad yn Rownd Derfynol WorldSkills y Byd yn Rwsia yn 2019.

Cafodd y fyfyrwraig Lefel 3 Collette Gorvett ei ‘Chymeradwyo’n Uchel’ yng nghystadleuaeth y Gwasanaethau Bwyty yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills yn NEC Birmingham.

Yn y gystadleuaeth dechnegol heriol, bu rhaid i Collette weini te prynhawn Siampên, cerfio eog mwg, arllwys gwin, cyflwyno a cherfio rag o gig oen, gwneud moctels a choctels clasurol, adnabod gwirodydd o ran eu golwg a’u gwynt, paru bwyd a gwin, paratoi flambé sgampi, paratoi ffrwythau wrth y ford, gosod y bwyty, paratoi diodydd poeth a darparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.

“Mae Collete yn un o’n myfyrwyr gorau – ers symud ymlaen o Ysgol Gymraeg Bryntawe, mae hi wedi cwblhau cymwysterau Lefel 1 a 2 wrth gymryd rhan mewn amrywiol gystadlaethau lleol a rhanbarthol yng Nghymru,” dywedodd y mentor Nicola Rees, sydd hefyd yn hyfforddwr ym mwyty hyfforddi’r Vanilla Pod yn y Coleg. Rydyn ni i gyd wrth ein bodd gyda’r cynnydd mae Collette wedi’i wneud ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddi wrth iddi baratoi i fynd i Rwsia.”

Ochr yn ochr â Collette yng Ngharfan y DU yw’r cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe Ryan Kenyon sydd bellach yn gyflogedig yn y plasty nodedig Cliveden House yn Surrey. Mae gan Ryan brofiad blaenorol o gystadlu, gan sicrhau medal Arian yn rowndiau terfynol y DU yn 2015 a bod yn un o’r ddau yng Ngharfan y DU i hyfforddi ar gyfer Abu Dhabi yn 2017.

“Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni gael cystadleuwyr yn rownd derfynol y Sioe Sgiliau gan ennill balchder Tîm Cymru,” ychwanegodd y Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Mae Ryan a Collette yn uchelgeisiol, talentog a gweithgar – modelau rôl go iawn ar gyfer eu cyfoedion.”

https://www.gcs.ac.uk/cy/catering-and-hospitality

Tags: