Skip to main content

Neges i rieni/warcheidwaid

Rwy’n gobeithio eich bod chi a’ch teulu wedi mwynhau gwyliau’r haf.

Wrth i’n myfyrwyr ddychwelyd i’r Coleg, hoffem eich gwneud yn ymwybodol o’r trefniadau sydd ar waith o ddechrau tymor yr hydref a sut y byddwn yn parhau i flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein myfyrwyr tra byddant yn y Coleg.

Yn gyntaf, ein bwriad yw y bydd y rhan fwyaf o’r addysgu yn digwydd wyneb yn wyneb ond byddwn ni hefyd yn ystyried rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr hynny sy’n gorfod hunanynysu gartref.

Tra bydd ein myfyrwyr yn y Coleg, byddwn yn parhau i ddilyn canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn agos. Golyga hyn nad oes rhaid i grwpiau clwstwr/swigod na myfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i annog diheintio dwylo a chadw pellter cymdeithasol ac mae croeso i fyfyrwyr wisgo gorchuddion wyneb os dymunant wneud hynny.

Os bydd myfyriwr yn cael canlyniad positif am Covid-19, mae’r rheol newydd yn golygu y bydd rhaid i’r myfyriwr hunanynysu am 10 diwrnod.

Mae cymheiriaid sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â myfyriwr sydd wedi cael canlyniad positif yn gallu disgwyl i wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r GIG gysylltu â nhw gyda chyngor priodol. Mae’r cyngor yn debygol o gynnwys argymhelliad i gymryd prawf PCR, ond os nad oes symptomau gan y myfyriwr ac mae o dan 18 oed neu wedi’i frechu’n llwyr, nid oes rheswm i hunanynysu.

Os yw’n anodd adnabod cysylltiad agos, er enghraifft, ar gludiant Coleg neu mewn rhai gweithdai, bydd y Coleg yn cysylltu â’r rhiant/gwarcheidwad a’i gynghori i wylio am symptomau posibl (ac eto argymell prawf PCR).

Os ydych mewn amheuaeth, gallwch archebu prawf PCR yn www.gov.uk/get-coronavirus-test neu drwy ffonio 119.

Felly, i gadarnhau, os oes gennych symptomau - peswch parhaus newydd, twymyn neu wres uchel neu golli’r gallu i arogli neu flasu - dylech barhau i hunanynysu nes y byddwch yn gwybod canlyniad y prawf. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau hunanynysu i’w gweld yn www.gov.wales/self-isolation

Rydym yn cydnabod pa mor anodd mae’r 18 mis diwethaf wedi bod a’r holl aberthau yr oedd rhaid i’r holl deuluoedd eu gwneud. Diolch i chi am bopeth rydych chi wedi’i wneud i gynorthwyo ein myfyrwyr a’n Coleg.

Cofion
Mark Jones, Pennaeth