Skip to main content
Grŵp o wyth o bobl ifanc mewn digwyddiad, yn gwisgo dillad du ac yn gwenu

Coleg Gŵyr Abertawe i Noddi Gwobrau Plentyn Cymru 2026

Menyw mewn ffrog ddu ac aur yn sefyll ar garped coch mewn digwyddiad

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o gyhoeddi y bydd yn noddi Gwobrau Plentyn Cymru unwaith eto eleni.

Fel noddwr Gwobr Elusen Ragorol, mae’n bleser gan y Coleg gefnogi digwyddiad sy’n cydnabod dewrder, gwydnwch, tosturi a phenderfyniad pobl ifanc ledled y wlad.

Dywedodd Kelly Fountain, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe:

“Rydyn ni’n falch dros ben o barhau â’n partneriaeth gyda Gwobrau Plentyn Cymru ac o chwarae rhan unwaith eto yn cefnogi digwyddiad mor bwysig ac ysbrydoledig. 

“Fel Coleg, rydyn ni’n angerddol am gefnogi ein cymunedau a dathlu llwyddiannau pobl ifanc, ac felly mae gwerthoedd Gwobrau Plentyn Cymru yn cyd-fynd yn hynod o dda gyda’n gwerthoedd ni ein hunain. Mae’n fraint bod yn rhan o’r digwyddiad gan helpu i daflu goleuni ar y plant a’r bobl ifanc arbennig sy’n gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol ar draws Cymru."

Bydd y gwobrau eleni yn cael eu cynnal yn adeilad mawreddog Arena Abertawe ddydd Gwener 2 Hydref, gan ddwyn ynghyd blant, teuluoedd, elusennau, sefydliadau a chefnogwyr o bob cwr o Gymru ar gyfer noson sy’n dathlu cyflawniadau anhygoel pobl ifanc.

Yn ogystal, bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe bresenoldeb cryf yn y digwyddiad, gyda’i ddysgwyr Teithio a Thwristiaeth yn cefnogi’r carped coch fel rhan o’r Garfan Hunluniau. 

Bydd y dysgwyr - Owen Evans, Keira-Lee Bellew, Jessica Davies, Lily Fox, Andrei Manciu a Skye Owen-Williams – yn chwarae rôl allweddol wrth helpu gwesteion i ddal eiliadau arbennig ar y noson, gan ennill profiad ymarferol gwerthfawr o weithio mewn digwyddiad mawr.

Meddai Leah Joseph, Arweinydd Cwricwlwm Teithio a Thwristiaeth:

"Mae hwn yn brofiad mor wych i’n dysgwyr. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddeall sut mae digwyddiadau mawr yn gweithio ac mae wir yn helpu i gyfoethogi eu rhaglen nhw. Rydyn ni wrth ein bodd bod Gwobrau Plentyn Cymru wedi gofyn i ni fod yn noddwr unwaith eto."

Mae’n gyfle i ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe gael mewnwelediad i’r gwaith o drefnu a chyflwyno digwyddiad proffil uchel, gan ganiatáu iddynt roi eu sgiliau cyfathrebu, gwasanaeth cwsmeriaid a rheoli digwyddiad ar waith.

I wybod rhagor am Wobrau Plentyn Cymru, ewch i wefan swyddogol Gwobrau Plentyn Cymru.

* Tynnwyd y lluniau yn nigwyddiad 2025