Mae saith myfyriwr ar hugain o Goleg Gŵyr Abertawe yn dal sawl cynnig i astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth yn y brifysgol ym mis Medi.
Mae darpariaeth cymorth tiwtorial Meddygon, Deintyddion a Milfeddygaeth (MDM) y Coleg – sy’n rhan o raglen ehangach Anrhydeddau CGA – yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr sydd wedi mynegi diddordeb mewn gwyddorau meddygol, milfeddygaeth, deintyddiaeth a fferylliaeth ennill y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i wneud cais i’r brifysgol o’u dewis.
Mae’r myfyrwyr wedi elwa yn fawr ar sesiynau tiwtorial MDM y Coleg yn ogystal â chymryd rhan yn Academi Seren, rhaglen Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r offer angenrheidiol i ddysgwyr wneud cais i sefydliadau blaenllaw yng Nghymru, y DU a ledled y byd. Cawsant gyfle hefyd i fynychu sesiynau tiwtorial wythnosol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, cysgodi gwaith, siaradwyr gwadd a cheisiadau i’r brifysgol.
Mae gan y Coleg gysylltiadau cryf ag ysbytai lleol a darparwyr gofal eraill ac mae’n cynnal sgyrsiau rheolaidd gan feddygon ymgynghorol, meddygon teulu a milfeddygon. Mae siaradwyr gwadd yn cael eu gwahodd i’r tiwtorialau hyn i drafod eu rôl fel meddyg wrth ei waith, gan roi mewnwelediad unigryw i’r yrfa maen nhw am ei dilyn.
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r nifer uchel o gynigion i’n myfyrwyr sy’n gobeithio dilyn gyrfaoedd mewn meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth eleni,” dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Mae galw mawr am leoedd yn y prifysgolion hyn a, rhyngddyn nhw, mae’r myfyrwyr hyn wedi cael bron 50 o gynigion unigol. Am gyflawniad anhygoel – da iawn i bob un ohonyn nhw.”
“Rydyn ni hefyd yn estyn diolch i’r staff addysgu a chymorth sydd bob amser yn chwarae rôl fawr yn y llwyddiant parhaus hyn - o helpu gyda datganiadau personol ac ysgrifennu geirdaon, i baratoi ar gyfer y cyfweliadau hollbwysig,” ychwanegodd y Pennaeth, Paul Kift.
Y myfyrwyr yw:
Meddygon
Eve Barron (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caergrawnt
Maya Chainey (gynt o Ysgol Coedcae) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caeredin
Lara Edwards (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Lerpwl
Aslam Hoque (gynt o Ysgol Pentrehafod) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Demi Jones (gynt o Ysgol Gyfun Gatholig St John Lloyd) sydd wedi cael sawl cynnig
Lily Kearney (gynt o Ysgol Esgob Gore) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast
Olivia Kieft (gynt o Ysgol Gyfun Cwmtawe) sydd wedi cael sawl cynnig
Rhydian Murphy (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Verena Mahrous (gynt o Ysgol Gyfun Gelli-fedw) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Daisy Squire (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Marta Szafraniec (gynt o Ysgol Pentrehafod) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Lerpwl
Maximillian Tsang (gynt o Ysgol Bryngwyn) sydd wedi cael cynnig lle at Ysgol Feddygol Hull York
Caitlin Thomas (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Bangor
Lola Williams (gynt o Ysgol Gyfun Maes-y-dderwen) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Bangor
Thomas Blackie (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Bryste
Deintyddiaeth
Leyah Nicholls (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Rachel Thomson (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Caerdydd
Eliza Roe (gynt o Ysgol Coedcae) sydd wedi cael cynnig lle yng Ngholeg y Brenin Llundain
Milfeddygaeth
Elinor Alden (gynt o Ysgol Gyfun Cwmtawe) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Surrey
Emily Coombs (gynt o Ysgol Pentrehafod) sydd wedi cael cynnig lle yn Ysgol Filfeddygol Harper and Keele
Cerrys Morgan (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Bryste
Trystan Ovens (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael sawl cynnig
Sally Smith (gynt o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt) sydd wedi cael sawl cynnig
Mali Thomas (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle Ym Mhrifysgol Aberystwyth
Abbie Williams (gynt o Ysgol Gyfun Pen-yr-heol) sydd wedi cael cynnig lle yn y Coleg Milfeddygol Brenhinol
Millie Jones (gynt o Ysgol Gyfun Pontarddulais) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Swydd Gaerhirfryn
Lowri Jones (addysgwyd gartref) sydd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Bryste