Skip to main content
Cyn-fyfyrwyr yn chwarae rôl allweddol yng ngwaith ailddatblygu Gorseinon

Cyn-fyfyrwyr yn chwarae rôl allweddol yng ngwaith ailddatblygu Gorseinon

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr yn dychwelyd i Goleg Gŵyr Abertawe yn nes ymlaen yn eu bywydau. Mae rhai yn cofrestru ar ddosbarthiadau nos rhan-amser i ailhyfforddi neu ddechrau hobi newydd, tra bod eraill yn canfod eu hunain yn cerdded trwy’r drws fel rhieni yn edrych i gofrestru eu plant ar gyrsiau amser llawn.  

Ond i Owen Rees a Luc Blackmore, mae ychydig yn wahanol eto. Mae’r ddau gyn-fyfyriwr wedi dychwelyd i chwarae rôl hanfodol yng ngwaith ailddatblygu Campws Gorseinon sy’n werth £20.6 miliwn.

Mae Owen yn Gyfarwyddwr Cyswllt yn AtkinsRéalis, cwmni gwasanaethau peirianneg a dylunio o safon fyd-eang.

Ar ôl gadael y Coleg yn 1996 gyda chymwysterau Safon Uwch mewn Daearyddiaeth, Daeareg a’r Gyfraith, symudodd ymlaen i Brifysgol Brighton i ddilyn cymhwyster BSc Anrh mewn Astudiaethau Ynni a Daearyddiaeth. Wedi iddo raddio, treuliodd Owen rywfaint o amser yng Ngwlad Groeg fel hyfforddwr hwylio cyn gweithio ar y môr yn y diwydiant olew a nwy. Yna, penderfynodd ailhyfforddi fel syrfëwr adeiladu, a symud ymlaen yn y pen draw i faes rheoli prosiect.

Bron 30 mlynedd wedyn, ac mae Owen yn gweithio i AtkinsRéalis, sy’n goruchwylio’r gwaith sy’n cael ei wneud o ddydd i ddydd yng Ngorseinon gan y prif gontractwr Kier a’r tîm dylunio ehangach.

“Mae hwn yn brosiect gwirioneddol gyffrous, uchelgeisiol a chymhleth sy’n cynnwys dros 60 o bobl yn gweithio ar y safle ar unrhyw un adeg,” meddai Owen. “Mae’n rôl wirioneddol amrywiol, yn ogystal â gweithio’n agos gyda’n cydweithwyr yn Kier, dwi hefyd yn gyfrifol am gydgysylltu â chleientiaid hefyd, felly does dim dau ddiwrnod yr un fath.

“Roedd hi’n eitha’ rhyfedd y tro cynta’ i mi ailymweld â Champws Gorseinon yn fy rôl bresennol. Roedd yr hen brif fynedfa a’r dderbynfa eisoes wedi cael eu dymchwel ond roedd rhai rhannau o’r safle yn dal i fod yn gyfarwydd iawn, ac roedd yn braf hel atgofion. Mae’n teimlo’n wych i fod yn ôl a chwarae rôl allweddol mewn prosiect mor anhygoel.”

Mynychodd Luc y Coleg yn 2016/17 er mwyn cwblhau ei hyfforddiant rheoleiddiol mewn gosodiadau a gwifrau trydanol. Roedd y cwrs yn rhan o’i brentisiaeth, ac wedyn aeth yn syth i gyflogaeth amser llawn.

Ymunodd â Kier ym mis Medi 2021 ac mae wedi bod yn ei swydd bresennol am y tair blynedd diwethaf. Fel Rheolwr Gwasanaethau Adeiladu, mae Luc yn gyfrifol am adolygu’r lluniadau dylunio mecanyddol a thrydanol a gwirio ansawdd a chydymffurfiad yr holl agweddau ar y rhaglen a’r gosodiadau. Bydd hefyd yn monitro gwaith comisiynu a chofnodi’r gwasanaethau adeiladu i sicrhau trosglwyddiad llwyddiannus i’r Coleg.

“Mae’n wych bod yn rhan o brosiect a fydd yn gwella profiad addysgol y myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe lle es i fy hunan, ac sy’n lleol i mi, er mae wedi gwneud i mi deimlo’n hen!” meddai Luc.

Cefnogir gwaith ailddatblygu Campws Gorseinon gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ac mae’n tynnu sylw at ymroddiad y Coleg i wella’r amgylchedd dysgu a sicrhau twf cynaliadwy ei gyfleusterau.

Pan gaiff ei gwblhau, bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys mynedfa/atriwm newydd, ystafelloedd dosbarth/cyfleusterau TGCh ychwanegol a lleoedd cymdeithasol i fyfyrwyr, a gwell system llif traffig.

Mae’r prosiect, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mai 2026, yn gam allweddol hefyd yn ymrwymiad y Coleg i gyflawni carbon sero net, yn unol â safonau Llywodraeth Cymru.