Skip to main content
Lansio twrnamaint rygbi e-chwaraeon yn y Coleg

Lansio twrnamaint rygbi e-chwaraeon yn y Coleg

Maer Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal digwyddiad swyddogol i lansio twrnamaint e-Chwaraeon cyffrous.

Bydd twrnamaint Rygbi 25, a drefnir gan e-Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, yn annog dysgwyr o ysgolion a cholegau i gystadlu mewn gemau rygbi strategol a chyflym.

Mae’r twrnamaint yn tanlinellu’r bartneriaeth sy’n tyfu rhwng Undeb Rygbi Cymru ac e-Chwaraeon Cymru, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau, ennill cydnabyddiaeth a chystadlu ar lefel uchel ym myd cynyddol boblogaidd e-Chwaraeon.

Bydd y gemau cymhwyso’n cael eu cynnal ar 8, 15 a 22 Hydref, gyda’r gêm fawr derfynol yn digwydd ar 5 Tachwedd. Bydd enillwyr yn cael cyfle i fynd ben-ben â sêr rygbi Cymru a gwesteion arbennig a bydd y digwyddiadau’n cael eu ffrydio’n fyw ar sianel Twitch Undeb Rygbi Cymru.

“Mae’r Coleg yn cynnig nifer o gyrsiau e-Chwaraeon, o gymwysterau Lefel 2 i gwrs Gradd Sylfaen,” meddai’r Rheolwr Maes Dysgu, Darren Fountain. “Rydyn ni wrth ein bodd o gynnal y digwyddiad lansio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, sy’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo e-Chwaraeon yn yr ardal. Bydd hyn yn gyfle gwych i selogion rygbi a chefnogwyr gemio cystadleuol fel ei gilydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gêm rithwir gyntaf!”

Dechreuodd y Coleg addysgu cyrsiau e-Chwaraeon yn 2020. Ers hynny, mae’r adran wedi gweithio’n ddiflino i arddangos y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael i fyfyrwyr. Yn y cyfamser, mae tîm Gwdihŵs CGA wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, gan ennill Pencampwriaeth e-Chwaraeon Prydain, twrnamaint Agored US Cardinal a Phencampwriaeth e-Chwaraeon BETT — anrhydeddau uchel eu parch sy’n tanlinellu rhagoriaeth mewn gemio cystadleuol, hyfforddiant, ac addysg e-Chwaraeon.