Skip to main content
Myfyrwyr cerddoriaeth yn perfformio yng ngŵyl y Mwmbwls

Myfyrwyr cerddoriaeth yn perfformio yng ngŵyl y Mwmbwls

Fe wnaeth myfyrwyr Safon Uwch Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe gamu i’r llwyfan yn ddiweddar fel rhan o Ŵyl Cerddoriaeth a’r Celfyddydau y Mwmbwls.

Roedd eu datganiad ‘Rising Stars’ a gafodd ei gynnal yn Eglwys yr Holl Saint yn Ystumllwynarth, yn cynnwys perfformiadau solo o amrywiaeth o ddarnau gan gynnwys Maria gan Leonard Bernstein, Poor Wand’ring One gan Gilbert a Sullivan, a Deh Vieni, non Tardar gan Mozart.

“Roedd hyn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gefnogi digwyddiad anhygoel yn y gymuned leol a dangos eu talentau canu a cherddorol i gynulleidfa werthfawrogol,” dywedodd Arweinydd y Cwricwlwm Jonathan Rogers.

Y perfformwyr oedd:

  • Edward Roberts – ffidil
  • Carys Poole – ffliwt / piano
  • Elian Hooper – mezzo
  • Ryan Evans – bariton
  • Elliot Harrington – corn bariton
  • Penelope George – soprano
  • Lucy Lee – ffliwt
  • Ben Perkins – clarinét
  • Katherine Foxall – soprano

Lluniau: Peter Price