Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr / Group of students

Myfyrwyr Saesneg yn mwynhau darlleniad barddoniaeth arbennig

I ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ar 5 Hydref, roedd myfyrwyr Safon Uwch Saesneg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o groesawu’r bardd Guinevere Clark i Gampws Gorseinon.

Cafodd casgliad cyntaf Guinevere, Fresh Fruit & Screams, ei gyhoeddi yn 2006. Ers hynny, mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cyhoeddiadau gan gynnwys Minerva Rising, The A3 Review, The Atlanta Review a nawr Magazine.

Cyrhaeddodd y 10 uchaf yng Nghystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Ambit yn 2020 ac enillodd wobrau Rhestr Fer a Chanmoliaeth Uchel yn seremoni Gwobr Lenyddol Ryngwladol  The Hammond House 2022.

Astudiodd Guinevere Ysgrifennu Creadigol, Theatr Gorfforol a Chelfyddydau Byw ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, ac ennill gradd Dosbarth Cyntaf. Yn ogystal, mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a PhD o Brifysgol Abertawe.

“Roedden ni’n falch dros ben o groesawu Guinevere i’n hystafell ddosbarth ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth a’i chlywed hi yn adrodd rhywfaint o’i gwaith gwreiddiol i ni,” meddai’r Arweinydd Cwricwlwm Hannah Williams. “Roedd y myfyrwyr wir wedi mwynhau’r sesiwn a gobeithio eu bod nhw wedi cael eu hysbrydoli i roi pin ar bapur eu hunain! Hoffwn ddiolch hefyd i Adran Saesneg Prifysgol Abertawe am eu help yn hwyluso’r darlleniad barddoniaeth.” 

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yw’r dathliad torfol blynyddol ar y dydd Iau cyntaf ym mis Hydref sy’n annog pawb i ysgrifennu, profi a rhannu barddoniaeth â theulu a ffrindiau. Bob blwyddyn rydym yn dod at ein gilydd oherwydd mae lleisiau, geiriau a storïau yn helpu i bontio dealltwriaeth yn ein cymuned. Lloches yw’r thema ar gyfer 2023.