Skip to main content
Grŵp o staff a myfyrwyr

Myfyrwyr yn dathlu cynigion gwych gan Rydgrawnt

Mae deg myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2024.

“Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r cynigion hyn. Hoffwn i estyn llongyfarchiadau i’r myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni’r canlyniadau anhygoel hyn,” meddai Cydlynydd Anrhydeddau CGA y Coleg, Dr Emma Smith.

“Mae’n arbennig o braf bod y myfyrwyr hyn wedi dod i Goleg Gŵyr Abertawe o wyth ysgol uwchradd wahanol, ac yn mynd i naw coleg gwahanol, ac y byddan nhw’n astudio deg pwnc hollol wahanol, felly mae amrywiaeth ac ehangder yr astudio yn amlwg, ac mae hyn bob amser yn wych i’w weld.”

"Dwi’n hynod falch o gyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr sydd wedi sicrhau cynigion gan Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain.

“Mae eu llwyddiant yn dyst i’w gwaith caled a’u hymroddiad, a hefyd i’r cymorth eithriadol a roddir gan ein staff a rhaglenni fel Anrhydeddau CGA. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd lle gall pob myfyriwr ffynnu yn academaidd ac yn bersonol. Ein nod yw grymuso’r myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial a gwireddu eu breuddwydion, ac mae llwyddiant y myfyrwyr hyn yn ymgorfforiad gwirioneddol o’r ethos hwnnw.”

Mae’r myfyrwyr i gyd yn dilyn rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg ar Gampws Gorseinon, sy’n anelu at ddarparu’r paratoadau gorau posibl i fyfyrwyr sy’n gobeithio symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group.

Myfyriwr

Pwnc

Coleg

Prifysgol

Cyn ysgol

Lola

Meddygaeth

St Anne's

Rhydychen

Coed Cae

Ella

Saesneg

St. Hugh's

Rhydychen

Llandeilo Ferwallt

Ollie

Y Gyfraith

Christ Church

Rhydychen

Olchfa

Shona

Hanes a Gwleidyddiaeth

Brasenose

Rhydychen

Dwr-Y-Felin

Katie

Peirianneg

Trinity Hall

Caergrawnt

Pontarddulais

William

Mathemateg

Churchill

Caergrawnt

Pontarddulais

Trinity

Eingl-Sacsoneg, Norseg a Chelteg

Murray Edwards

Caergrawnt

Ffynone House

Scarlett

Meddygaeth Filfeddygol

Newnham

Caergrawnt

Cwmtawe

Rhys

Economi Tir

Trinity Hall

Caergrawnt

Pontarddulais

Leah

Addysg

Lucy Cavendish

Caergrawnt

Pen-yr-heol

Mae Rhaglen Anrhydeddau CGA yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, paratoi ar gyfer cyfweliadau gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesiadau mewn pynciau perthnasol.

Mae dysgwyr sy’n dymuno gwneud cais i astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu wyddor filfeddygol yn mynychu sesiynau ychwanegol. Mae’r sesiynau hyn yn eu paratoi ar gyfer profion mynediad a chyfweliadau cystadleuol. Maent hefyd yn cael cyfle i glywed sgyrsiau difyr gan siaradwyr gwadd o amrywiaeth eang o gyflogwyr a chyrsiau prifysgol.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn falch o fod yn rhan o’r fenter ‘Step Up’, wedi’i chydlynu gan y Coleg Newydd, Rhydychen. Mae’r tîm ‘Step Up’ yn cefnogi myfyrwyr trwy ddod i Gampws Gorseinon i drafod y broses ymgeisio a datganiadau personol, ac yn rhoi cyfleoedd i’n dysgwyr ymweld â Rhydychen.