Skip to main content
Cymorth

Rhaglen Anrhydeddau

Anrhydeddau CGA yw’r rhaglen cymorth a chyfoethogi academaidd i fyfyrwyr a hoffai wneud cais i’r prifysgolion gorau yn y DU a thu hwnt.

Yn dechrau yn B12, byddwn ni’n eich cynorthwyo bob cam o’r ffordd drwy’r broses ymgeisio i’r brifysgol a’ch helpu i wireddu eich dyheadau.

Mae gennym ni enw cryf am ragoriaeth academaidd ac rydym yn hynod falch o lwyddiant ein myfyrwyr sy’n cynnwys:

  • 30 o gyn-fyfyrwyr CGA sy’n astudio yng Ngholegau Rhydgrawnt ar hyn o bryd
  • Dros 40 o fyfyrwyr CGA sydd wedi cael lleoedd meddygon, deintyddion a milfeddygon dros y ddwy flynedd diwethaf.
  • Cafodd 227 o fyfyrwyr CGA leoedd ym Mhrifysgolion Russell Group ar gyfer 2021.

Yn seiliedig ar ddull ysgolheigaidd o ddysgu ac ymrwymiad i hyrwyddo dyheadau academaidd myfyrwyr, mae Anrhydeddau CGA yn cynorthwyo myfyrwyr i wneud ceisiadau llwyddiannus, hynod gystadleuol i’r prifysgolion gorau drwy:  

Roi’r cyngor, y cyfarwyddyd a’r cymorth gorau i’ch helpu i wneud penderfyniadau call am eich dyfodol academaidd

Eich herio i archwilio’ch disgyblaeth academaidd a’ch ymgysylltiad uwch-gwricwlaidd

Eich annog i feddwl yn feirniadol, yn annibynnol, yn ddadansoddol ac yn hyblyg

Datblygu ymagwedd resymegol tuag at eich dysgu a brwdfrydedd dros syniadau/cysyniadau cymhleth.

Mae wedi’i chynnwys ar yr amserlen fel rhan o’ch cynnig cwricwlwm Safon Uwch a bydd yn eistedd ochr yn ochr â’ch pynciau academaidd. Wrth wraidd ein rhaglen mae ein tiwtorialau her academaidd: sesiynau bob pythefnos i ddatblygu eich sgiliau meddwl a darllen beirniadol, a sgiliau ymchwil.

Byddwch chi hefyd yn cadw dyddiadaur academaidd myfyriol a fydd yn eich cynorthwyo i dreiddio’n ddyfnach i’ch pwnc a thrafod syniadau heriol ac ymchwil gyda chyfoedion o gyffelyb fryd. 

Bydd myfyrwyr Anrhydeddau CGA yn cael cyfle i gymryd rhan yn Academi Seren a Rhaglen HE+ Prifysgol Caergrawnt.

I’r myfyrwyr hynny sydd ag uchelgeisiau i ymgeisio am gyrsiau a chyrchfannau prifysgol mynediad-cynnar, bydd ein Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt a’n Rhaglen Meddygon, Deintyddion a Milfeddygon yn darparu cymorth, help a chyfarwyddyd ychwanegol. 

Mae Academi Seren yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n ymroddedig i helpu dysgwyr mwyaf disglair Cymru i gyflawni eu holl botensial academaidd yng Nghymru, y DU, a thramor.

Mae Academi Seren ar gael i’r holl ddysgwyr sy’n alluog yn academaidd ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13. Mae’n cynnig sesiynau rhyngweithiol a phrofiadau astudio unigryw i gynorthwyo’ch dysgu parhaus, a chyfarwyddyd arbenigol i’ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus wrth i chi baratoi i wneud cais i brifysgolion blaenllaw. Mae hyn yn cynnwys gweithdai cyngor a chyfarwyddyd gan diwtoriaid derbyn Rhydychen a Chaergrawnt, sesiynau paratoi ar gyfer derbyn i’r brifysgol, dosbarthiadau meistr mynediad i bwnc a chyfleoedd ysgol haf yn Rhydychen ac Iâl.

Mae Academi Seren yn rhan o raglen Anrhydeddau CGA ac rydym yn cynorthwyo myfyrwyr yn unigol i wneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir.

Rydym yn hynod falch o fod y prif hyb HE+ cyntaf, a’r unig un, yng Nghymru fel rhan o raglen uwch-gwricwlaidd Prifysgol Caergrawnt.

Dyfarnodd Prifysgol Caergrawnt statws HE+ i Goleg Gŵyr Abertawe i gydnabod dilyniant rhagorol ei fyfyrwyr i’r Brifysgol dros y 30 mlynedd diwethaf. Mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol, rydym yn cynnal dosbarthiadau meistr pwnc-benodol misol ar gyfer dros 350 o fyfyrwyr B12 ar draws Abertawe bob blwyddyn.

Trwy gyfuniad o sesiynau rhithwir ac wyneb yn wyneb, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymestyn, gweithdai a gweithgareddau heriol, sydd â chysylltiad agos â’r cwrs y maen nhw am ei astudio yn y brifysgol ac a gyflwynir gan academyddion o brifysgolion blaenllaw, gan gynnwys Caergrawnt. 

Mae ein Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt yn dechrau yn B12 ym mis Ionawr ac yn para am flwyddyn a’i nod yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth i chi wneud ceisiadau cystadleuol i Rydychen neu Gaergrawnt.

Wedi’i gyflwyno gan ein tiwtoriaid academaidd arbenigol sy’n gyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt, mae’n cynnwys sesiynau wythnosol sy’n rhoi dealltwriaeth i chi o fanylion cais Rhydgrawnt, a chymorth un-i-un i gwblhau’ch cais. Trwy ymweliadau ac arosiadau dros nos yng ngholegau Rhydychen a Chaergrawnt, byddwch chi hefyd yn cael cyfle i brofi’r prifysgolion mawreddog hyn yn uniongyrchol.

Fel un o dri sefydliad addysgol yng Nghymru sydd ar Raglen ‘Step Up’ Coleg Newydd, Rhydychen, ac fel hyb partner HE+ gyda Choleg Churchill, Caergrawnt, mae ein Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt hefyd yn elwa oherwydd y cysylltiadau agos sydd gennym â’r ddwy brifysgol. 

Mae ein Rhaglen Caergrawnt yn cynnwys:

  • Sesiynau tiwtorial Rhydgrawnt pwrpasol
  • Sesiynau cyfoethogi (rhan o’r Rhaglen ‘Step Up’)
  • Sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach, penodol i’r pwnc
  • Cyngor a chyfarwyddyd un-i-un ar ddewisiadau prifysgol, coleg a gradd unigol
  • Cymorth datganiad personol wedi’i deilwra
  • Cyfleoedd ymgysylltu uwch-gwricwlaidd
  • Paratoi ar gyfer prawf gallu a derbyn
  • Cymorth cyfweliad, gan gynnwys ffug gyfweliadau Rhydgrawnt gyda chyn-fyfyrwyr
  • Mentora gan gyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt CGA
  • Arosiadau dros nos yn Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae ein rhaglen sesiynau tiwtorial meddygol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y gwyddorau meddygol, milfeddygaeth, deintyddiaeth a fferylliaeth ennill y sgiliau a’r profiad i wneud cais i’r brifysgol o’u dewis.

Rhoddir sesiynau tiwtorial wythnosol i fyfyrwyr ac mae’r rhain yn canolbwyntio ar opsiynau gyrfa. Rydym hefyd yn cynnig cymorth ac arweiniad i sicrhau y gall myfyrwyr gael profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli i gefnogi eu ceisiadau prifysgol.

Mae gan y Coleg gysylltiadau cryf ag ysbytai lleol a darparwyr gofal eraill ac mae’n trefnu anerchiadau rheolaidd gan ymgynghorwyr, meddygon teulu a milfeddygon. Gwahoddir siaradwyr gwadd i’r sesiynau tiwtorial hyn i drafod eu rôl fel meddygon sy’n ymarfer, gan roi cipolwg i fyfyrwyr ar yr yrfa y maen nhw am ei dilyn.

Mae rhai o uchafbwyntiau ein cyfres o ddarlithoedd gwadd yn cynnwys anerchiadau ar y canlynol:

  • Gwneud cais i astudio meddygaeth a dod yn feddyg teulu gan yr Athro Stokes-Lampard (Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol) 
  • Seiciatreg a meddygaeth gan Dr. Niall Boyce (Golygydd ‘Lancet Psychiatry’)
  • Gyrfaoedd mewn ffisioleg gardiaidd gan Ailsa Wallis (Uwch Ffisiolegydd Cardiaidd – PABM)
  • Milfeddygaeth gan gynrychiolydd PDSA
  • A gwibdaith flynyddol i ddigwyddiad byw Gwyddoniaeth Mewn Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae sesiynau tiwtorial hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr drafod materion moesegol cyfoes a datblygiadau meddygol, a chael cyngor ar dechnegau cyfweliad. 

Gall myfyrwyr gael profiad o gyfweliad a chymorth gan gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sydd bellach wedi cael eu cymwysterau ac yn symud ymlaen â’u gyrfaoedd. Rydym hefyd yn trefnu diwrnodau cyfweliad-bach dan amodau sy’n dilyn y broses gyfweld a ddefnyddir gan nifer o brifysgolion blaenllaw.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch fiona.beresford@gcs.ac.uk