Skip to main content
Tymor llwyddiannus i bêl-droedwyr y Coleg

Tymor llwyddiannus i bêl-droedwyr y Coleg

Tymor llwyddiannus i bêl-droedwyr y Coleg

Mae’r cwpwrdd troffïau yn llenwi yn gyflym yng ngholeg Gŵyr Abertawe, wrth i’n Hacademi Bêl-droed ddathlu eu tymor mwyaf llwyddiannus hyd yma.

Yn ogystal â chael eu coroni’n bencampwyr Haen 1 Cynghrair ECFA, cyrhaeddodd y tîm rownd cynderfynol y Gwpan genedlaethol (Haen 1), ac fe enillwyd Cwpan Pencampwriaeth Uwch Genedlaethol Dynion (Haen 1) a Chwpan Ysgolion Cymru.

Mae wyth chwaraewr - Nathaniel Osborne, Sam Seagers, Harvey Chapman, James Lester, Jay Farrell-Alli, Ricky Owen, Keane Whitmore, ac Ollie Anderson - wedi ennill Capiau Rhyngwladol i dîm Colegau Cymru dan 19.

Yn ogystal, enillodd Jay Farrell-Alli gap Rhyngwladol i dîm Ysgolion Cymru dan 18 ac enillodd y Darian Canmlwyddiant.

Yn dilyn camau Caleb Demery, a sicrhaodd gytundeb dwy flynedd gyda chlwb pêl-droed Abertawe, mae Archie Quick wedi sicrhau ysgoloriaeth dwy flynedd gyda chlwb Abertawe. 

“Am dymor arbennig – Pencampwyr Cenedlaethol a phencampwyr triphlyg am y tro cyntaf yn ein hanes. Mae hyn yn gyflawniad anhygoel.” meddai Arweinydd y Cwricwlwm Andrew Stokes, sydd wedi goruchwylio'r Academi Bêl-droed gyda'r darlithydd Richard South ers deng mlynedd.

"Mae gennym garfan ddawnus tu hwnt sydd â dyfodol disglair iawn o'u blaenau, ac rydyn ni'n gyffrous i weld beth allan nhw ei gyflawni nesaf."