Skip to main content

Newyddion y Coleg

Oriau cau dros y Nadolig

Amserau cau dros y Nadolig 2018-19

Coleg
Ar gau o 1pm Dydd Gwener 21ain Rhagfyr
Yn ail-agor ddydd Llun 7fed Ionawr o 8.30am

Canolfan Chwaraeon
Ar agor yn ol yr arfer (21/22/23 Rhagfyr)
Noswyl Nadolig 6.30am - 1pm
Ar gau 25ain Rhagfyr - 1af Ionawr
2 Ionawr - 6.30am - 4pm
Oriau arferol o'r 3ydd Ionawr

Darllen mwy
Llwyddiant mathemateg barhaus

Llwyddiant mathemateg barhaus

Bu cyfanswm o 65 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cystadlu yn Sialens Unigol Maths Uwch yn ddiweddar (mae dros 600,000 o fyfyrwyr yn cystadlu gyda dros 4000 o ysgolion a cholegau ledled y DU y cymryd rhan).

Enillodd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 11 Aur, 11 Arian a 15 Efydd gyda deg o’r myfyrwyr yma’n sgorio’n ddigon uchel i gystadlu yn y rownd nesaf

Roedd naw o’r myfyrwyr yma'n rhan o'n carfan Ryngwladol. Gweler yn y lluniau – Tony, Brian, Jonas, Jasmine, Lucy a Faye.

Darllen mwy
Cydnabyddiaeth i staff yn nigwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor

Cydnabyddiaeth i staff yn nigwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad llewyrchus yn Stadiwm y Liberty er mwyn anrhydeddu aelodau o staff sydd â dros 20 mlynedd o wasanaeth.

“Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ni gynnal digwyddiad Gwobrau Gwasanaethau Hirdymor. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ymrwymiad a theyrngarwch cynifer o aelodau’n staff,” meddai Cyfarwyddwr yr Adnoddau Dynol, Sarah King. “Roedd hefyd yn gyfle perffaith i arddangos côr newydd staff y Coleg am y tro cyntaf , a braf yw dweud eu bod wedi creu cryn argraff drwy berfformio mor arbennig.”

Darllen mwy
Sblasio ar gyfer Elusen - myfyrwyr yn neidio i'r môr

Sblasio ar gyfer Elusen - myfyrwyr yn neidio i'r môr

Mae grŵp o fyfyrwyr eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (KCEP).

Mae’r ‘dip walrws’ yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae’r myfyrwyr yn ei drefnu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen. Y mis diwethaf, roedden nhw hefyd wedi cwblhau taith ddringo galed i gopa’r Wyddfa.

Cafodd KCEP, a arweinir gan fyfyrwyr, ei sefydlu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2003 i gefnogi cymuned Madungu trwy wella mynediad i addysg, sgiliau, incwm a chyflogadwyedd. 

Darllen mwy
Ysgolion Rhyngwladol ar y gorwel i’r Coleg

Ysgolion Rhyngwladol ar y gorwel i’r Coleg

Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu Dr. Wen Cao – Deon yr Adran Ryngwladol ym Mhrifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (BFSU) – a gyflwynodd bwnc addysg ryngwladol K-12 yn Tsieina i uwch reolwyr ac aelodau o’r bwrdd.

“Mae’r Coleg yn gobeithio sefydlu ysgol ryngwladol yn Tsieina ac felly roedd yn gyfle ardderchog i gael gwybodaeth werthfawr gan sefydliad sydd eisoes wedi sefydlu pum ysgol Safon Uwch ryngwladol yn yr ardal,” dywedodd Rheolwr yr Adran Ryngwladol Kieran Keogh.

Darllen mwy
Diwrnod allan yng Nghaerfaddon

Diwrnod allan yng Nghaerfaddon

Roedd grŵp o fyfyrwyr Rhyngwladol wedi mwynhau gwibdaith gyffrous i un o ddinasoedd mwyaf apelgar Prydain.

Roedden nhw wedi ymweld â’r Baddonau Rhufeinig a threulio amser ym Marchnad Nadolig arobryn Caerfaddon.

Yn ogystal, roedd amser gan y grŵp i bori yng nghanol nwyddau crefftwyr a blasu bwyd stryd danteithiol.

Darllen mwy
Myfyrwyr yn cwrdd ag artist eiconig ar ymweliad ag Abertawe

Myfyrwyr yn cwrdd ag artist eiconig ar ymweliad ag Abertawe

Roedd staff a myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi bachu ar y cyfle i gwrdd ag artist pop eiconig Syr Peter Blake pan ymwelodd ag Abertawe dros y Sul.

Yr ymweliad cyntaf oedd Oriel Gelf Glynn Vivian i ddathlu lluniau Blake o Under Milk Wood gan Dylan Thomas a lansiad ‘arddangosfa agored’ ar gyfer trigolion Abertawe (oedd yn cynnwys gwaith gan ddarlithydd y Coleg Phil Jacobs).

Darllen mwy
Rhaglen hyfforddi athrawon yn llwyddiant

Rhaglen hyfforddi athrawon yn llwyddiant

Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi croesawu athrawon o Zhuzhou, Hunan, Tsieina i gymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi fer.

Roedd ein gwesteion o Tsieina wedi arsylwi ar amrywiaeth o ddosbarthiadau Safon Uwch gwahanol a sesiynau wedi’u haddysgu ac roeddent hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid diwylliannol, gyda rhai o’n myfyrwyr Tsieineaidd presennol yn gwneud gwaith cyfieithu ar y pryd.

Hoffai’r tîm Rhyngwladol ddiolch i bawb a helpodd gyda’r rhaglen ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhagor o athrawon o Tsieina yn y Flwyddyn Newydd.

Darllen mwy
Hwyl yr ŵyl

Hwyl yr ŵyl

Cafodd y myfyrwyr rhyngwladol amser gwych yn mynd i ysbryd yr ŵyl yng Ngŵyl y Gaeaf yn Abertawe.

Dechreuodd y noson gyda sesiwn sgelfrio iâ wedi’i dilyn gan hwyl a sbri yn y ffair.

Roedd yn fendigedig gweld ein myfyrwyr yn ymlacio gyda’i gilydd cyn gwyliau’r Nadolig.

Darllen mwy
Coleg yn lansio Ystafell Arloesedd Addysg Lego

Coleg yn lansio Ystafell Arloesedd Addysg Lego

Mae’r drysau Ystafell Arloesedd Addysg Lego newydd sbon Coleg Gŵyr Abertawe wedi agor yn swyddogol.

Dyma’r unig ystafell addysgol o’i math yn yr ardal leol, a bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr, disgyblion ysgol a chyflogwyr i wella eu sgiliau digidol gan ddefnyddio Lego.

Darllen mwy