Tîm athletau’r Coleg yn torri recordiau


Diweddarwyd 17/05/2019

Yn ddiweddar, roedd aelodau o dîm athletau Coleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan ym mhencampwriaethau Athletau Afan Nedd Tawe ym Mhrifysgol Abertawe, lle roeddent yn cystadlu yn erbyn cymheiriaid o Goleg Castell-nedd Port Talbot a chweched dosbarthiadau yn ardal Abertawe/Castell-nedd.

Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus, gyda thîm bechgyn CGA yn ennill y categori ‘bechgyn hŷn’a’r tîm merched dod yn ail yn y categori ‘merched hŷn’.

Cafwyd nifer o berfformiadau gwych drwy gydol y dydd, ond rhaid rhoi sylw arbennig i’r myfyrwyr Safon Uwch Tomos Slade (yn y llun) ac Ieuan Hosgood am dorri recordiau yn y digwyddiadau clwydi 110m a’r naid bolyn.

Mae’r record am y clwydi 110m wedi sefyll er 1974 ar 14.9 eiliad, ond, ar ôl rhedeg yn wych ar y diwrnod, roedd Tom wedi torri’r record a’i wneud mewn 13.6 eiliad sy’n anhygoel.

Ac er nad oedd yr amodau ar y diwrnod yn ddelfrydol ar gyfer y naid bolyn, roedd Ieuan yn gallu cynyddu’r hen record a osodwyd yn 2002 o 4.20m i 4.30m.

“Roedd hyn yn ymdrech arbennig gan yr holl fyfyrwyr,” dywedodd y darlithydd Marc Jones. “Rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf pan, gobeithio, gall y bechgyn gadw’r teitl a gall y merched fynd un cam yn well a’i ennill!”

Tags: