Newyddion y Coleg
Llwyddiant Tenis Bwrdd i fyfyriwr rhyngwladol
Llongyfarchiadau i’r myfyriwr Rhyngwladol Jarret-Yuzhe Zhang ar ennill Pencampwriaeth Tenis Bwrdd Colegau Cymru.
Cipiodd Jarrett, sy’n wreiddiol o Singapore'r safle cyntaf ar ôl curo’r cyn-bencampwr a chyd-fyfyriwr CGA – Jacob Young
Bydd y ddau, sy’n ffrindiau mawr ac yn aml yn ymarfer gyda'i gilydd, yn cynrychioli Cymru yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol, Mis Ebrill nesaf.
Yn dilyn ei lwyddiant, pwysleisiodd Jarrett ei falchder wrth ennill y gystadleuaeth a’r boddhad wrth iddo gael arddangos baner Cymru yn y broses.
Ni’n falch iawn ohonot, Jarret – da iawn!
Darllen mwy
Myfyrwyr yn mwynhau gweithdy ffeltio
Bu myfyrwyr Celf Gain Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy ffeltio gydag Vivian Rhule, sy’n artist ffelt a phrint o gyffiniau Abertawe, a chaiff ei hysbrydoli gan dirluniau a byd natur leol yn bennaf.
Bu’r gweithdy diwrnod yn gyfle i fyfyrwyr greu darnau o waith celf ffelt i’w cynnwys yn eu portffolio.
Darllen mwy
Llwyddiant Gala Nofio Gorllewin Morgannwg
Ym ddiweddar, bu pum myfyriwr sy’n astudio ar gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan yn Gala Nofio Ranbarthol yr Urdd, ym Mhwll Nofio Dyfed Road, Castell Nedd.
Dyma’r canlyniadau fesul ras:
Darllen mwy
Merched yn gwneud yn dda
Mae myfyrwyr Rhyngwladol yr ail flwyddyn wedi rhoddi gwaith celf gwreiddiol cardiau cyfarch i godi arian tuag at Blant Mewn Angen.
Roedd Maggie ac Iris, sy’n astudio celfyddyd gain a thecstiliau a Trista, myfyriwr ffotograffiaeth, wedi darparu’r lluniau gwych.
Codwyd £100 trwy werthu’r cardiau.
Yn ogystal, roedd y Swyddfa Ryngwladol wedi trefnu stondin i werthu nwyddau Pydsi a bisgedi lwcus a chodwyd ychydig dros £200.
Myfyrwyr rhyngwladol yn anelu’n uchel
Mae saith myfyriwr Safon Uwch Rhyngwladol wedi gwneud cais i astudio yn naill ai Caergrawnt neu Rydychen ym mis Medi 2019.
Roedd pob un o’r rhain wedi cael o leiaf dair gradd A yn eu harholiadau Safon UG ac maen nhw eisoes wedi cael cynigion gan brifysgolion sy’n enwog ar draws y byd megis Coleg Imperial Llundain, UCL ac Ysgol Economeg Llundain.
Roedd yr holl fyfyrwyr wedi cwblhau eu hasesiadau gallu Rhydgrawnt dros hanner tymor ac nawr maen nhw’n aros i weld a fyddan nhw’n cael cyfweliad.
Dymunwn bob lwc i holl fyfyrwyr y Coleg gyda’u ceisiadau Rhydgrawnt.
Myfyrwyr CGA yn ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd yn WorldSkills!
Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n eithriadol o dda yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol UK LIVE WorldSkills yn NEC Birmingham yn ddiweddar.
Enillodd y myfyriwr Peirianneg Electronig Jamie Skyrme Fedal Aur yn y categori Electroneg Ddiwydiannol ar ôl ymgymryd â set heriol o dasgau cystadlu gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.
Darllen mwy
Coleg wedi arwyddo cytundeb partneriaeth addysgol
Mae’r Rheolwr Rhyngwladol Kieran Keogh wedi arwyddo cytundeb mewn partneriaeth â Britlink, un ois-gwmniau Dimensions Education Group, a’i leolir yn Singapore er mwyn darparu cymhwysterau galwedigaethol ledled Malaysia, Myanmar a Vietnam.
Mewn partneriaeth â Britlink, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cymwysterau lefel 2 a 3 mewn disgybliaethau sy’n gysylltiedig â busnes, o ddechrau 2019.
Myfyrwyr yn mwynhau gweithdy serameg
Bu myfyrwyr Celf Gain Coleg Gŵyr Abertawe yn mwynhau gweithdy clai gydag Eluned Glyn, sy’n ddylunydd a gwneuthurwr cerameg o Gymru, a chaiff ei hysbrydoli gan ffurfiau serameg clasurol yr 20fed a’r 21ain Ganrif.
Bu’r gweithdy diwrnod yn gyfle i fyfyrwyr greu cerflunio drwy ddulliau coil, slabio clai a chreu siapiau clai gan ddefnyddio dull mowldio a slip.
Darllen mwy
Y Coleg yn croesawu 'Mary Poppins'
Croesawyd un o sêr y West End, Caroline Sheen i Adran Celfyddydau Perfformio Coleg Gŵyr Abertawe er mwyn rhoi gwers Theatr Gerdd ysbrydoledig. Roedd y wers yn un amserol gan ystyried y byddwn yn dangos cynhyrchiad cerddorol o Mary Poppins Jr y Nadolig yma.
Darllen mwy
Dilyniant o AB i AU – mae’r myfyriwr PhD o’r Drindod Dewi Sant, Ashley Pullen, ar lwybr i lwyddiant
Chymwysterau mewn maes arbenigol – Profi Anninistriol (NDT). Mae’r Drindod Dewi Sant wedi dod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer addysgu, ymchwil a datblygu academaidd ym maes Profi Anninistriol (NDT). Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 72
- Tudalen nesaf ››