Skip to main content
Myfyrwyr CGA yn ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd yn WorldSkills!

Myfyrwyr CGA yn ennill gwobrau Aur, Arian ac Efydd yn WorldSkills!

Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n eithriadol o dda yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol UK LIVE WorldSkills yn NEC Birmingham yn ddiweddar.

Enillodd y myfyriwr Peirianneg Electronig Jamie Skyrme Fedal Aur yn y categori Electroneg Ddiwydiannol ar ôl ymgymryd â set heriol o dasgau cystadlu gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.

Yn y categori Gwasanaethau Bwyty, enillodd Paulina Skoczek Fedal Arian ac enillodd Paige Jones Fedal Efydd. Roedd eu tasgau’n cynnwys paratoi moctels, coffi hufen Cointreau,  flambé a the prynhawn siampên.

“Rydyn ni’n falch iawn dros Jamie – a dros ei gyd-fyfyriwr Matthew Belton oedd hefyd wedi cyrraedd rowndiau terfynol y DU,” dywedodd Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig, Steve Williams. “Yn ogystal â’n myfyrwyr oedd yn cystadlu, roedd Richard Kostromin a Callum Elsey hefyd wedi rhedeg arddangosfa ryngweithiol ar thema gosodiadau cartref CLYFAR. Roedd gallu cynnal yr arddangosfa a rhyngweithio â’r miloedd o ymwelwyr â’r stondin yn brofiad gwych a wnaeth godi ein hyder.”

“Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo o Goleg Gŵyr Abertawe gyrraedd rowndiau terfynol y digwyddiad nodedig hwn,” ychwanegodd y Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Roedden ni mor falch bod Paige a Paulina wedi cael y cyfle gwych hwn i ddangos eu sgiliau a chystadlu ar lefel mor uchel.”

“Mae ein medalau Aur, Arian ac Efydd wedi sicrhau bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi gorffen yn y 10 uchaf o’r colegau gorau yn y DU o ran sgorau WorldSkills, mae hyn yn llwyddiant bendigedig,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Diolch a llongyfarchiadau i’r myfyrwyr, a weithiodd mor galed i baratoi ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills , ond hefyd i’r timau addysgu ymroddedig sydd wedi eu mentora yn ystod pob cam o’r broses.”