Skip to main content
Y Coleg yn croesawu 'Mary Poppins'

Y Coleg yn croesawu 'Mary Poppins'

Croesawyd un o sêr y West End, Caroline Sheen i Adran Celfyddydau Perfformio Coleg Gŵyr Abertawe er mwyn rhoi gwers Theatr Gerdd ysbrydoledig. Roedd y wers yn un amserol gan ystyried y byddwn yn dangos cynhyrchiad cerddorol o Mary Poppins Jr y Nadolig yma.

Actor o Gymru yw Caroline ac mae ei rhestr hirfaith o ymddangosiadau mewn cynyrchiadau West End yn cynnwys: chwarae Eponine a Fantine yn Les Miserables, chwarae Truly Scumptious yn Chitty Chitty Bang Bang ym Mhaladiwm Llundain, chwarae Sandy mewn cynhyrchiad o Grease ym mhalas Fictoria, chwarae rhan Mary Poppins ar daith Cameron Mackintosh a Disney o amgylch y DU, a llawer mwy.

Bydd Mary Poppins Jr yn cael ei ddangos Mis Rhagfyr yma yng Nghampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe. Bydd manylion am y tocynnau yn cael eu rhyddhau yn fuan!