Gwneud Ffrog Haf (Cwrs Gwnïo)
Trosolwg
Bydd y cwrs hwn yn eich addysgu sut i gynllunio a gwneud ffrog haf. Bydd y cwrs yn eich helpu i ddewis y ffabrig perffaith ar gyfer eich ffrog haf, a deall sut i osod a thorri ffabrig yn gywir gan ddefnyddio templed patrwm.
Yn ogystal â’r gwaith llunio sylfaenol, byddwch chi hefyd yn meistroli’r defnydd o atodiadau peiriant hanfodol fel troed sip, troed hem rôl, a throed twll botwm.
Byddwch chi hyd yn oed yn dysgu technegau brodwaith mudiant-rhydd, gan sicrhau bod eich gwisg orffenedig yn wirioneddol unigryw.
Gallwch ddewis defnyddio patrwm masnachol, dod â’ch cynllun patrwm eich hun neu ddefnyddio bloc a wnaed ymlaen llaw fel y sylfaen ar gyfer eich cynllun.
Gwybodaeth allweddol
Mae disgwyl i chi fod â rhai sgiliau gwnïo a phrofiad o wneud dillad syml er mwyn ymuno â’r cwrs hwn, ond bydd technegau newydd yn cael eu dangos yn llawn o’r dechrau.
Mae dosbarthiadau’n digwydd yn ein stiwdio gwnïo a chynllunio gyfeillgar, fach ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad i amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd ymlaciol ond ysbrydoledig.
Bydd yr holl ddefnyddiau’n cael eu darparu ar y dechrau i’ch rhoi ar ben y ffordd, er bydd disgwyl i chi ddarparu’ch defnyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu’ch prosiect eich hun.
Dysgu sut i gyfuno’ch sgiliau gwnïo newydd â chlytwaith, appliqué neu frodwaith a sashiko fel y gallwch gynllunio dillad hanfodol sy’n unigryw i’ch steil.
Gallwch symud ymlaen i gyrsiau gweithgynhyrchu dillad eraill hefyd.