Skip to main content
 New ‘Skills for the Workplace’ Project to Power Southwest Wales Workforce

Prosiect ‘Sgiliau ar gyfer y Gweithle’ newydd i Rymuso Gweithlu De-orllewin Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio menter newydd sydd â’r nod o ddysgu sgiliau mawr eu hangen i unigolion ar draws de-orllewin Cymru er mwyn ateb anghenion lleol a helpu pobl i ffynnu yn y gweithlu heddiw. 

Lansiwyd prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithlu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac felly roedd yn gyfle priodol i ganolbwyntio ar helpu oedolion i ailhyfforddi ac adeiladu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Trwy gyllid Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae’r pedwar coleg yn Ne-orllewin Cymru (Coleg Gŵyr Abertawe, Grŵp Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir Gâr, Coleg Sir Benfro) a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau wedi’u sybsideiddio’n sylweddol, mewn sectorau allweddol gan gynnwys:  

  • Gweithgynhyrchu Uwch a Chlyfar
  • Peirianneg
  • Ynni a Charbon Sero Net  
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Digidol, TGCh  
  • Ac Adeiladu.  

Bydd y prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn hanfodol wrth ddarparu cyflogaeth gydgysylltiedig a chymorth hyfforddi, gan gryfhau’r gweithlu presennol, helpu busnesau i dyfu, a chreu cyfleoedd i unigolion sy’n ceisio cyflogaeth ledled Abertawe a’r cyffiniau. Yn ogystal, bydd yn helpu cyflogwyr i ddatblygu eu staff a mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau a’r maglau sy’n wynebu nifer o sefydliadau.  

Dywedodd Paul Kift, Pennaeth Dros Dro Coleg Gŵyr Abertawe:

“Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â magu hyder, datblygu arbenigedd a sicrhau bod gan ein cymunedau fynediad at y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ar hyn o bryd. Drwy weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, gallwn helpu i ddatblygu’r gweithlu’n uniongyrchol, gan helpu busnesau i uwchsgilio eu staff, rhoi hwb i gynhyrchiant a chau bylchau sgiliau. Mae’r cydweithrediadau hyn wrth wraidd y Coleg a byddan nhw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fusnesau ac unigolion ar draws y rhanbarth.

Rydyn ni’n credu bod datblygiad proffesiynol parhaus yn chwarae rhan hanfodol yn hyn, gan roi cyfle i bobl ailhyfforddi, addasu a chreu gweithlu sy’n barod ar gyfer heriau’r dyfodol.”

Yn y lansiad, clywodd busnesau o bob cwr o’r rhanbarth yn uniongyrchol sut y gallai’r prosiect fod o fudd iddynt. Cawsant gyfle hefyd i wrando ar gyflogwyr eraill wrth i Ymgynghorydd Datblygu Busnes y Coleg, Stuart Davies, arwain trafodaeth banel ar fanteision datblygu’r gweithlu. Roedd aelodau’r panel yn cynnwys Lucy Hole, Cyfarwyddwr The Secret Hospitality Group, Jonathan Morris, Rheolwr Datblygu Strategol Tai Tarian, a Jane Lewis, Rheolwr Partneriaeth Ranbarthol ar gyfer y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol.

Ychwanegodd Jane Lewis: “Mae Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn gyfle gwych i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Drwy alinio hyfforddiant ag anghenion diwydiannau lleol, gallwn bontio bylchau presennol a helpu i greu gweithlu cryfach a mwy gwydn ar gyfer de-orllewin Cymru.

Mae gweithio mewn partneriaeth â cholegau eisoes wedi galluogi llawer o gyflogwyr i uwchsgilio eu gweithlu, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a gwella hyder a chynhyrchiant staff. Mae’n arbennig o briodol lansio’r prosiect hwn yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, gan ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio, cyfleoedd, a dysgu gydol oes i bawb yn ein cymunedau.”

Ariennir prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle gan y Rhaglen Sgiliau a Thalentau trwy’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol a Bargen Ddinesig Bae Abertawe.