Cafodd Adran E-chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe gyfle i fynd i DreamHack Stockholm yn 2025. Fe wnaeth wyth dysgwr ymweld â Sweden i ennill profiad gwaith gwerthfawr o fewn y diwydiant e-chwaraeon, gan ddysgu mwy am ymarfer rhyngwladol.
DreamHack yw un o wyliau gemau ac echwaraeon mwyaf y byd, ac mae’n cynnig amgylchedd gwych ar gyfer ennill mewnwelediad go iawn i’r diwydiant. Trwy fynd i’r digwyddiad, fe wnaeth ein myfyrwyr gael cyfle i archwilio gyrfaoedd yn y diwydiant a oedd yn berthnasol i’w cwrs, ac fe wnaethon nhw wylio cystadlaethau byw er mwyn cael dealltwriaeth o sut i redeg digwyddiadau mawr. Dywedodd Julian Sheppard, Echwaraeon:
“Ar ôl mynd i Dreamhack rydw i wedi sylweddoli pa mor fawr ac eang mae’r diwydiant echwaraeon. Rydw i wedi ennill gwell dealltwriaeth o wahanol rolau, sgiliau angenrheidiol a’r ymroddiad sydd ei angen i lwyddo. Rydw i hefyd wedi bod yn meddwl am yr hyn rydw i am ganolbwyntio arno wrth symud ymlaen i sicrhau gyrfa o fewn y diwydiant.”
Yn ystod y digwyddiad cafodd y dysgwyr gyfle i ymweld â nifer o stondinau, lle dysgwyd lawer am sut mae gwahanol sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd o fewn y sector, gan gynnwys timau, trefnwyr cystadlaethau, cyhoeddwyr, cwmnïau cynhyrchu a darparwyr technoleg. Dywedodd Tom baker, myfyriwr Echwaraeon:
“Fe wnes i fwynhau siarad yn uniongyrchol â thimau echwaraeon a sefydliadau eraill. Roedd cael cyfle i weld sut maen nhw’n gweithredu yn y byd go iawn, gwylio digwyddiadau byw a gofyn cwestiynau yn ffordd gliriach o ddysgu, yn hytrach na dysgu am ddigwyddiadau o’r fath yn yr ystafell ddosbarth.”
Cafodd dysgwyr gyfle hefyd i gwrdd a siarad â gweithwyr proffesiynol, gan drafod eu rolau, cyfrifoldebau a llwybrau posib i mewn i’r diwydiant. Yn ogystal, cafwyd cyfle i ymgysylltu â thimau echwaraeon i ddysgu mwy am strywhturau pob tîm, amgylcheddau cystadleuol a sut mae timau echwaraeon yn cael eu gweithredu.
“Cafodd y daith hon effaith bositif ar hyder, cymhelliant ac ymwybyddiaeth dysgwyr o’r diwydiant. Roedd gallu ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol yn helpu dysgwyr i ddeall yr ystod o rolau sydd ar gael o fewn y diwydiant a sut mae eu cwrs yn berthnasol i gyfleoedd cyflogaeth yn y byd go iawn” meddai Kiran Jones, Darlithydd mewn Echwaraeon.
Bydd y wybodaeth a'r profiad a enillwyd o'r ymweliad hwn yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn addysgu a dysgu'r cwrs echwaraeon drwy enghreifftiau go iawn, trafodaethau sy'n seiliedig ar y diwydiant a ffocws cynyddol ar gyflogadwyedd. Mae'r profiad hefyd wedi rhoi cyfle i’n dysgwyr archwilio cyfleoedd rhyngwladol a chysylltiadau posibl â'r diwydiant a allai fod o fudd iddynt.