Skip to main content

Llythrennedd Digidol Lefel 3 – Cwrs

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
5 Diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae'r cwrs hwn mewn Llythrennedd Digidol - a gyflwynir un diwrnod yr wythnos -  yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar draws ystod eang o sectorau sydd eisiau datblygu sgiliau digidol ymarferol a throsglwyddadwy sy'n cyfateb i sgiliau Safon Uwch.

Bydd dysgwyr yn archwilio dulliau effeithiol o chwilio ar-lein ac yn dysgu sut i wneud y mwyaf o gymwysiadau Microsoft 365 fel Word, Teams, Loop, PowerPoint, Sway a Forms, yn ogystal ag offer digidol eraill gan gynnwys Canva, Gamma, Padlet a chymwysiadau DA. Mae'r cwrs hefyd yn cwmpasu hygyrchedd, dulliau creu cynnwys digidol deniadol fel tudalennau gwe, cyflwyniadau a llyfrau amlgyfrwng, a defnyddio offer DA yn effeithiol.

Bydd y sesiynau yn ymarferol a bydd dysgwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau ar y cyd a chwblhau portffolio o waith.

Gwybodaeth allweddol

  • Sgiliau digidol da
  • Y gallu i ddefnyddio amrywiaeth o offer digidol
  • Gwybodaeth am DA
  • Dyma gwrs Lefel 3 (cyfwerth â Lefel A) a fydd yn cael ei gyflwyno mewn cyfnod byr o amser, felly mae angen lefel dda o sgiliau digidol.

Bydd yr holl weithdai yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb a bydd y sesiwn yn y bore yn cael ei ddarparu dan arweiniad tiwtor.

Byddwch yn cael cyfle i wneud gwaith ymarferol, annibynnol yn y prynhawn. Yn y bore, byddwch yn cael defnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau, gan roi cynnig arnynt dan oruchwyliaeth.

Pynciau’r sesiwn: 

  • Cynhyrchedd digidol
  • Llythrennedd gwybodaeth ddigidol
  • Cydweithio digidol
  • Creadigrwydd digidol
  • Cyfrifoldeb digidol.

Prentisiaethau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: 

  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
  • Marchnata Digidol
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr.

Bydd dysgwyr yn sicrhau tystysgrif Llythrennedd Digidol Lefel 3 ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.

Digital Literacy Level 3
Cod y cwrs: 3342ITG WB
23/03/2026
Llys Jiwbilî
5 weeks
Mon
9.30am - 4.30pm
£0
Digital Literacy Level 3
Cod y cwrs: 3342ITG WB
21/05/2026
Llys Jiwbilî
5 weeks
Thurs
9.30am - 4.30pm
£0