Skip to main content
Group photo of winners outside Tycoch campus

Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru yn Anrhydeddu Saith o Brentisiaid Coleg Gŵyr Abertawe

Mae saith prentis o Goleg Gŵyr Abertawe newydd gael eu cydnabod gan Gwmni clodfawr Lifrai Cymru am eu cyflawniadau academaidd a phersonol.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch gan Paul Kift, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, y Meistr Henry Gilbert ac Angharad Beynon o Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.

Yn ddiweddar, cwblhaodd Rhys Cole, Rhys Gwyther-Evans, Matthew Taylor a Taylor Bater – myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) – gwrs Lefel 2 mewn Rheoli Cyfleusterau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe. Mae hyn yn dangos y gall ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ffynnu os ydynt yn derbyn addysg gynhwysol a chyfleoedd ystyrlon.

Roedd gan Leon Lezzi - sy’n gweithio gyda Chyngor Abertawe - gynlluniau mawr o fod yn drydanwr, ond yn anffodus, ni wireddodd ei freuddwyd oherwydd diswyddiad. Ond, yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to, fe addasodd ei fywyd gan weithio ym maes gwasanaethau adeiladu yn gweithredu peiriannau trwm. Yn y cyfnod hwn fe adeiladodd fywyd teuluol, gan barhau i ddal yn dynn ar ei freuddwyd.

Fe wnaeth Ruby Shadrach, prentis Cyfreithiol gyda JCP Solicitors, symud ymlaen o ddarpariaeth Safon Uwch y Coleg i brentisiaeth lawn. Mae hi’n ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd am gymryd llwybrau anhraddodiadol i mewn i sector y gyfraith, ac mae hi’n sicr yn meddu ar yr ymroddiad, yr angerdd a’r chwilfrydedd sydd eu hangen i agor drysau yn y sector.

Mae Sonny Desmond o J Lynch Buildings yn brentis adeiladu rhagorol ac mae ei ymroddiad a’i agwedd yn rhyfeddol. Mae e’n grefftus iawn ac yn rhagori ar bob safon ddisgwyliedig ac mae e’n esiampl wych i brentisiaid eraill.

Dywedodd y Meistr Henry Gilbert, Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru:

“Braint yw cydnabod y prentisiaid rhagorol hyn o Goleg Gŵyr Abertawe. Mae eu hymroddiad, eu gwydnwch a’u hymrwymiad i ddatblygu sgiliau yn adlewyrchiad o dalent gorau Cymru. Mae’n argoeli’n dda iawn ar gyfer dyfodol y wlad.”

Ychwanegodd Angharad Beynon:

“Llongyfarchiadau i’r dysgwyr a hefyd i staff y Coleg am y cymorth a’r anogaeth a roddwyd i bob un o’r enillwyr. Mae cyflawniadau gwych y myfyrwyr yn dangos yr hyn sy’n bosib pan fydd Cymru yn buddsoddi yn ei dysgwyr.”

Ffurfiwyd Cwmni Lifrai Anrhydeddus Cymru yn wreiddiol fel Urdd Lifrai Cymru yn 1993 gan aelodau o Gwmnïau Lifrai Dinas Llundain a oedd yn dymuno cyflwyno traddodiadau Lifrai i Gymru, gan feithrin talent a chefnogi addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg wrth hyrwyddo sgiliau a gweithgareddau proffesiynol hyd a lled y wlad.

Dywedodd Paul Kift, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:

"Rydyn ni’n hynod o falch o’r prentisiaid a’r hyn y maen nhw wedi’i gyflawni. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am eu cymorth parhaus ac am gydnabod ein dysgwyr."