Cyflwyniad i Apiau Microsoft 365
Trosolwg
Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn cyflwyno apiau Microsoft 365 a sut y gallan nhw gael eu defnyddio o ddydd i ddydd i gefnogi dysgu, addysgu a chydweithredu. Bydd y sesiwn yn archwilio amrywiaeth o offer gan gynnwys OneDrive, Word, PowerPoint, Sway, Teams, Loop, OneNote a Forms, ynghyd â throsolwg o sut mae fersiynau pen bwrdd ac ar-lein yn gallu cael eu defnyddio’n effeithiol gyda’i gilydd.
Bydd cyfranogwyr yn cael amser ymarferol i ddeall sut mae’r apiau hyn yn cydgysylltu i gynorthwyo cyfathrebu, creu adnoddau, trefnu a gwaith tîm. Y ffocws fydd ar ddefnydd ymarferol, gan ddangos sut i storio a rhannu ffeiliau, creu deunyddiau dysgu diddorol, rheoli gwaith grŵp a chasglu adborth gan ddefnyddio llif gwaith digidol syml.
- OneDrive: Defnyddir i storio, rhannu a chyrchu ffeiliau’n ddiogel o unrhyw le.
- Word: Mae’n helpu i greu dogfennau ac adnoddau strwythuredig.
- PowerPoint: Defnyddir i ddylunio a darparu cyflwyniadau diddorol.
- Sway: Mae’n rhoi modd i ddefnyddwyr greu cynnwys mwy deinamig ar y we yn gyflym ac yn hawdd.
- Teams: Mae’n cael ei archwilio fel hyb ar gyfer cyfathrebu, cyfarfodydd a chydweithredu.
- Loop: Mae’n cynorthwyo cydweithio ar gynnwys byw y gellir ei olygu.
- OneNote: Defnyddir ar gyfer trefnu nodiadau, syniadau ac adnoddau mewn llyfr nodiadau digidol, hyblyg.
- Forms: Defnyddir i greu arolygon, cwisys ac offer adborth.
Anelir y gweithdy at y rhai sydd eisoes yn defnyddio Microsoft 365 yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac sydd eisiau magu hyder ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio’r offer. Bydd yn helpu cyfranogwyr i wneud gwell defnydd o nodweddion presennol, darganfod swyddogaethau defnyddiol nad ydynt yn eu defnyddio ar hyn o bryd, a datblygu ffyrdd o weithio syml ar draws y platfform.
Gwybodaeth allweddol
Gwybodaeth o ddefnyddio offer digidol.
Bydd yr addysgu yn ymarferol ac yn rhyngweithiol, gyda dangosiadau byr wedi’u dilyn gan weithgareddau dan arweiniad lle gall cyfranogwyr gymhwyso pob offeryn i’w cyd-destun eu hunain. Bydd cyfleoedd i archwilio, ymarfer a gofyn cwestiynau drwyddi draw, gyda ffocws ar ddefnydd go iawn yn y gweithle yn hytrach na gwaith theori.
Astudio cyrsiau eraill sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe megis Diwrnodau Darganfod Digidol mewn:
- Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchedd yn y Gweithle
- Offer Deallusrwydd Artiffisial a Digidol Am Ddim ar gyfer Addysg
- Canva
- Cynnwys Digidol Creadigol.
Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel
- Lefel 2 Llythrennedd Digidol, cwrs byr (Dau ddiwrnod)
- Lefel 3 Llythrennedd digidol, cwrs byr (Pum diwrnod)
- Lefel 2 Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes
- Lefel 3 Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes.
Dewch â’ch gliniadur eich hun os yw’n bosibl, i roi modd i chi ddefnyddio a chofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gliniadur gennych, gallem ddarparu un.
Ariennir y gweithdy yn llawn.