Bydd myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn gallu manteisio ar amrywiaeth o eitemau hanfodol am ddim, diolch i bartneriaeth newydd rhwng y Coleg a’r elusen leol Faith in Families.
Yn Y Siop ar Gampws Tycoch, gall myfyrwyr gael pethau ymolchi, dillad newydd sbon, bagiau ac eitemau defnyddiol eraill a ddarperir gan brosiect Banc Pob Dim Cwtch Mawr yr elusen.
Mae’r nwyddau, a ddarparwyd trwy Amazon a phartneriaid busnes eraill, yn cynnwys eitemau hanfodol newydd a heb eu defnyddio y gellir eu hailddosbarthu’n uniongyrchol i ddysgwyr sydd eu hangen.
Bydd Y Siop yn cael ei staffio gan fyfyrwyr o adran Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) y Coleg. Bydd y cyfle hwn yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr iddynt, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau mewn gwasanaeth cwsmeriaid, cyfathrebu, trefnu, gwaith tîm a rheoli stoc – pob un ohonynt yn cefnogi eu dilyniant yn y dyfodol.
Cwtch Mawr yw’r banc pob dim cyntaf a’r unig un o’i fath yng Nghymru, sy’n casglu nwyddau dros ben newydd sbon gan fusnesau a’u dosbarthu’n gyflym ac yn gyfrifol trwy rwydwaith o fwy na 160 o sefydliadau partner dibynadwy. Mae hyn yn cynnwys eitemau hanfodol pob dydd fel dillad, dillad gwely, pethau ymolchi, cynhyrchion babanod a nwyddau cartref.
Mae’r eitemau yn cael eu didoli a’u paratoi yn Cwtch Mawr cyn cael eu hailddosbarthu trwy sefydliadau partner dibynadwy, gan helpu nwyddau hanfodol i gyrraedd plant, teuluoedd ac unigolion sydd eu hangen fwyaf a sicrhau bod cynhyrchion o ansawdd da yn cael eu defnyddio mewn cymunedau lleol.
“Rydyn ni’n falch iawn o weithio gyda Faith in Families i ddod â’r cymorth gwerthfawr hwn i’n dysgwyr. Rydyn ni’n treialu hyn yn Nhycoch yn gyntaf, gyda’r bwriad o wneud yr un peth ar ein campysau eraill er budd ein holl fyfyrwyr,” meddai’r Pennaeth Paul Kift. “Rydyn ni’n gwybod y gall cost hanfodion pob dydd roi pwysau ychwanegol ar bobl ifanc a’u teuluoedd, felly mae’n bwysig bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymorth ymarferol pan fydd ei angen arnynt.
“Mae’r eitemau i gyd yn newydd sbon a bydd Y Siop yn groesawgar ac yn gyfrinachol. Rydyn ni eisiau i ddysgwyr wybod nad oes unrhyw stigma ynghlwm wrth fanteisio ar y cymorth hwn – mae ar gyfer unrhyw un a allai elwa arno.”“Mae cyfranogiad ein dysgwyr SBA yn gwneud y bartneriaeth hyd yn oed yn fwy ystyrlon,” ychwanegodd James Donaldson, Dirprwy Bennaeth: Profiad y Dysgwr a Chynhwysiant. “Yn ogystal â chefnogi cymuned ehangach y Coleg, byddan nhw’n ennill profiad gwerthfawr a datblygu sgiliau trosglwyddadwy sy’n gallu eu helpu i symud ymlaen at fwy o annibyniaeth, dysgu pellach a chyflogaeth.”
“Mae Cwtch Mawr wedi’i adeiladu ar gred syml: dylai pob eitem ddod o hyd i gartref a dylai pob rhodd wneud gwahaniaeth,” meddai Jonathan Waite, Rheolwr Banc Pob Dim yn Faith in Families. “Drwy weithio gyda phartneriaid dibynadwy fel Coleg Gŵyr Abertawe, gallwn ni droi nwyddau dros ben yn gymorth ystyrlon i bobl ifanc ar draws ein cymunedau.
“Rydyn ni’n falch iawn o ddechrau’r bartneriaeth hon yn Nhycoch ac i weld dysgwyr SBA yn chwarae rôl mor bwysig yn ei darpariaeth. Bydd yn rhoi cyfle gwerthfawr iddyn nhw fagu hyder a sgiliau ymarferol wrth wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cyd-ddysgwyr.”
Mae’r bartneriaeth yn cefnogi ymrwymiad parhaus y Coleg i les y dysgwyr, cynhwysiant a dileu’r rhwystrau sy’n gallu effeithio ar addysg y dysgwyr a’u profiad Coleg.
Bydd rhagor o wybodaeth am y siop a sut y gall dysgwyr gael gafael ar yr eitemau yn cael ei chyhoeddi gan dîm Bywyd Myfyrwyr y Coleg.