Skip to main content
Grŵp mawr o bobl yn sefyll wrth ochr injan dân, gyda phont yn y cefndir ac awyr las

Siapio arweinwyr y dyfodol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Diolch i bartneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS), sy’n cynnig gradd mewn Arweinyddiaeth Tân ac Achub, roedd myfyrwyr ail flwyddyn cwrs Gwasanaethau Amddiffynnol mewn Lifrai Lefel 3 yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn gallu mwynhau diwrnod llawn gweithgareddau gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Yn ystod y sesiwn yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood, fe wnaeth y myfyrwyr brofi elfennau o brawf ffitrwydd hyfforddeion gan gynnwys cario’r bibell a symud rhywun anafus allan o berygl. Aethon nhw y tu mewn i’r tŷ mwg hefyd a dysgu rhagor am yr hyn y mae ymladdwyr tân dan hyfforddiant yn ei brofi wrth gymryd rhan yn y profion mynediad trwyadl. 

Roedd yr ymweliad yn gyfle i’r myfyrwyr brofi’r agweddau ymarferol ar ymladd tân ac ymateb i argyfwng. Helpodd i ddatblygu eu dealltwriaeth o weithdrefnau ymateb i argyfwng, gwaith tîm, cyfathrebu a’r sgiliau sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y gwasanaethau mewn lifrai.

Mae’r myfyrwyr yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood i gyd yn rhan o Academi Gwasanaethau Cyhoeddus y Coleg, sy’n rhedeg mewn partneriaeth â PCDDS, Prifysgol De Cymru, Heddlu De Cymru a GTACGC.

“Mae’r partneriaethau rydyn ni wedi’u creu trwy’r Academi yn hynod werthfawr ac wedi rhoi cyfle i’n myfyrwyr fwynhau profiadau trochol i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth sydd, yn ei dro, wedi ysbrydoli llawer ohonynt i ystyried y brifysgol fel opsiwn posibl ar gyfer y dyfodol” meddai Rebecca Mugford, darlithydd Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. 

“Yn ogystal â chael cipolwg ar fywyd ymladdwr tân dan hyfforddiant, maen nhw’n cael ymchwilio i ystod eang o weithgareddau a gweithdrefnau fel stopio a chwilio, cyfweliadau tystion, casglu tystiolaeth a mynd i’r afael â seiberdroseddu, sydd i gyd yn eu galluogi i adeiladu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.”