Skip to main content

Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefel 3 - Diploma Estynedig Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
C&G
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Bwriedir y cwrs Lefel 3 hwn yn benodol i ddysgwyr sydd â diddordeb angerddol mewn gweithio gyda phlant ac a hoffai ddilyn gyrfa ym maes gofal plant, addysg blynyddoedd cynnar, neu feysydd cysylltiedig.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cwblhau portffolio seiliedig ar eich profiadau mewn lleoliad. Bydd eich aseswr yn eich arsylwi ar eich lleoliad hefyd. Cewch eich addysgu sut i roi’r profiadau dysgu a chwarae gorau posibl i blant yn ogystal â gofalu am eu hanghenion sylfaenol. 

Gwybodaeth allweddol

  • Amser llawn, dwy flynedd 
  • Rhannu’r wythnos – mewn lleoliad a phresenoldeb yn y Coleg 
  • Wythnosau cyfan mewn lleoliad 
  • Mae asesiadau’n cynnwys arsylwadau yn y lleoliad gwaith ac asesiadau ysgrifenedig wedi’u gosod gan CBAC.

Bydd pasio’r cwrs hwn yn rhoi cymhwyster sy’n rhoi modd i chi symud ymlaen i’r brifysgol neu fyd gwaith. Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys gweithio mewn meithrinfa ddydd neu fel cynorthwyydd addysgu. Mae cyfleoedd prifysgol yn cynnwys astudio addysgu, nyrsio, gradd blynyddoedd cynnar, therapi chwarae neu waith cymdeithasol.

  • Fel rhan o’r cwrs hwn, byddwch chi hefyd yn astudio Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd (Lefel 2).  
  • Mae gwiriad DBS (tua £40) yn ofynnol cyn dechrau’ch lleoliad 
  • Byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas.

Explore in VR