Skip to main content

Safon Uwch Saesneg Iaith a Llenyddiaeth

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Byddwch yn astudio’r ddrama A Streetcar Named Desire, yr hunangofiant Once in a House on Fire ac antholeg o farddoniaeth o Brydain ym mlwyddyn un. Ym mlwyddyn dau byddwch yn astudio The Color Purple a King Lear. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect gwaith cwrs gan gynnwys eich gwaith ysgrifennu creadigol eich hun. 

Amcanion: 

  • Datblygu mwynhad a diddordeb mewn llenyddiaeth Saesneg trwy astudiaethau pellach 
  • Datblygu dealltwriaeth o’r cysyniadau a’r dulliau a ddefnyddir i ddadansoddi ac astudio iaith 
  • Datblygu dulliau ieithyddol a llenyddol wrth ddarllen a dehongli testunau 
  • Archwilio ffactorau cyd-destunol a sut maen nhw’n dylanwadu ar y testun sy’n cael ei astudio. 

Canlyniadau: 

  • Byddwch yn gallu ymateb yn ddeallus i ystod eang o destunau 
  • Byddwch yn deall y ffactorau cyd-destunol sy’n dylanwadu ar awdur a darllenydd 
  • Byddwch yn gallu cwblhau astudiaeth annibynnol o nofelau llenyddol a chwblhau eich darn creadigol eich hun.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith a Saesneg Llenyddiaeth yn hanfodol 

Bydd asesiadau yn cynnwys aseiniadau wedi’u hamseru, cyflwyniadau a ffug arholiad adeg y Nadolig. 

Yn Safon UG: 

  • Uned  1 – Dadansoddi Cymharol ac Ysgrifennu Creadigol – arholiad 
  • Uned  2 – Drama a Thestunau Anlenyddol - arholiad

Yn Safon Uwch:

  • Uned  3 – Shakespeare – arholiad 2 awr 
  • Uned  4 – Testunau Heb eu Gweld ac Astudio Rhyddiaith – arholiad  
  • Uned  5 – Astudio Genre Beirniadol a Chreadigol – Asesiad di-arholiad.

Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys astudio yn y brifysgol a gyrfaoedd sy’n gofyn am lefel uchel o hyder wrth gyfathrebu naill ai ar lafar neu drwy ysgrifennu. Gall y rhain gynnwys ysgrifennu creadigol, newyddiaduraeth, hysbysebu a chyfathrebu neu addysgu.